Rwy’n dychmygu bod yna dîm o weithwyr ar ‘ddesg gymorth’ mewn sefydliad. Mae’r cwynion neu’r ceisiadau am help yn dod i mewn ac yn cael eu datrys y naill ar ôl y llall. Ar ôl ichi aros dau ddiwrnod heb gael ymateb, rydych chi’r cwsmer yn ffonio i ofyn iddyn nhw roi mwy o flaenoriaeth i’ch cais chi.
Yr escalation officer – rwy’n dychmygu eto – yw’r un sydd â’r awdurdod i symud eich cais chi yn nes at frig y rhestr aros, drwy ddyfarnu ei fod yn gais pwysicach na’i gilydd.
Ond rwy’n gadael y cwestiwn ‘beth fydden ni’n ei alw fe’ i rywun arall ei ateb!
David
Mae cronfa Ras Tŷ Hafan ar agor o hyd os hoffech chi helpu. http://www.justgiving.com/davidmbullock
My sponsorship page for Tŷ Hafan children's hospice is still open to new supporters.
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ann Corkett
Anfonwyd/Sent: 15 June 2007 16:19
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: escalation officer
'Ddrwg gen i - dim digon o gyd-destun. Sywddog y girisiau/lifftiau? Swyddog
dros waethygu ffraeon?
Ateb prynhawn dydd Gwener!
Hwyl,
Ann
----- Original Message -----
From: "Meleri Haf Hughes" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, June 15, 2007 4:12 PM
Subject: escalation officer
All rywun gynnig rhywbeth am hwn plis?!
Cyd-destun: Acting as the senior escalation officer in the unit, for
dealing with problems.
Diolch yn fawr.
Meleri
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.472 / Virus Database: 269.8.16/849 - Release Date: 14/06/2007
12:44
|