Roeddwn i'n cywiro iaith pan oeddwn i'n athro mewn ysgol Gymraeg - nid
popeth, doeddwn i ddim am ddigaloni'r plant bach, ond byddwn i'n tynnu
sylw at rai pwyntiau.
Rhan o'r broblem, a does neb am ei thrafod, yw nad yw Cymraeg llawer
o'r ATHRAWON yn ddigon sicr - fyddech chi ddim yn credu rhai o'r
pethau welais i a ysgrifenwyd gan fy nghyd-athrawon! Rhan arall o'r
broblem yw nad yw llawer o blant ail iaith yn clywed Cymraeg cywir yn
y cylchoedd Ti a Fi a'r ysgolion meithrin (mae fy mab yn mynd i Gylch
Ti a Fi ac rwy'n pryderu y bydd iaith y staff yn dylanwadu ar ei iaith
ef - e.e.
Dau merched mawr
Cadairs
Tais
Afals
Problem arall yw nad yw llawer o'r plant yn clywed y Gymraeg gartref
(a chwarae teg i'w rhieni am eu hanfon i ddysgu Cymraeg ond mae'n
golygu nad yw eu hiaith mor goeth a Chymraeg plentyn sy'n clywed y
Gymraeg bob dydd, drwy'r dydd). Mae Eoin bach ni yn cael Cymraeg gan
ei fam, ei famgu a'i daid (un o'r gogledd yw tad Rhian ac yn mynnu bod
yn 'taid'), gennyf i a chan ein ffrindiau. Dyw'r plant eraill ddim yn
cael cymaint o Gymrag o'u cwmpas ac felly mae angen help ychwanegol
arnynt - ond, o'm profiad i fel athro, dyw'r help hwnnw ddim ar gael
iddynt.
Sut allwn ni feio plant Cymru os dyma'r patrwm iaith a gyflwynir iddyn
nhw yn ein sefydliadau addysgol? Sut allwn ni ddisgwyl i athrawon
gywiro'r iaith pan nad ydynt eu hunain yn hollol sicr beth sy'n gywir
a beth sy'n wall?
Muiris
On 13/06/07, Gwenllian Mair Williams <[log in to unmask]> wrote:
> Dwi'n cofio ffrind i mi yn dweud nad oedd ei darlithwyr coleg yn cywiro ei
> hiaith, gan ganolbwyntio ar yr ystyr, ac roeddwn i'n gallu derbyn hynny i
> raddau, achos roeddwn i wedi bod drwy'r ysgol uwchradd efo'r ffrind yma,
> felly'n gwybod nad oedd ei iaith a'i gramadeg hi'n rhy ddrwg. Roedden ni
> wedi cael ein dysgu a'n cywiro drwy ein haddysg gynradd ac uwchradd.
>
> Os nad ydi'r iaith yn cael ei chywiro ar lefel uwchradd (ar wahan i wersi
> Cymraeg a Saesneg) pa obaith sydd i'r disgybl allu dilyn cwrs addysg
> uwch/bellach drwy gyfrwng y Gymraeg?
>
>
> Gwenllian
>
>
> Megan Tomos <[log in to unmask]> wrote:
>
>
> Gwenllian
> Mae gen i gydymdeimlad mawr efo ti. Gwn yn eithaf da sut wyt ti'n teimlo
> ynghanol y gwaith yma. Y mae'r cwestiynau rwyt ti'n eu gofyn yn nodi'r
> union bwyntiau a ddylai fod mewn trafodaeth rhwng yr athrawon/darlithwyr a'r
> cyfieithwyr a dyna pham ei bod yn holl bwysig cynnwys cyfieithwyr yn y
> drafodaeth ac nid eu trin fel gweithwyr mecanyddol. Mae'r pwysigrwydd a
> roddir i gywirdeb iaith a mynegiant yn amrywio o ddarlithydd i ddarlithydd,
> ond dan drefn CBAC y mae rhaid bod canllawiau ynglyn â hyn.
> Rwy'n cofio holi un darlithydd am hyn a chyfeiriodd at yr arfer cynnar o
> gyfieithu sgriptiau ar lafar ac anelu at yr hyn a geisiai'r myfyriwr ei
> ddweud oedd ei gyngor ef. Go brin y gellid dechrau ystyried sut i
> adlewyrchu mynegi amwys a bler ar lafar. Mae'n faes sy'n gofyn cael ei
> drafod yn fanwl wrth i fwy o bynciau gael eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg
> am y tro cyntaf a hynny weithiau heb i'r myfyrwyr gael eu dysgu gan
> ddarlithwyr/athrawon Cymraeg eu hiaith.
> Megan
>
>
> Megan
>
>
> ________________________________
>
> From: Gwenllian Mair Williams <[log in to unmask]>
> Reply-To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> <[log in to unmask]>
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Gwirio papurau arholiad
> Date: Wed, 13 Jun 2007 09:27:55 +0100
>
> Rydw i wedi trio peidio bod yn rhy glen - a sticio mor agos at y galla i at
> y gwreiddiol, ond ohewydd y broblem yma o gystrawen Saesneg, mae hynny'n
> golygu fod fy nghyfieithiad i yn aml yn gwneud mwy o synnwyr na'r Cymraeg.
> Doeddwn i ddim wedi disgwyl i'r gwaith yma fod yn hawdd (dyma'r tro cyntaf i
> mi wneud papurau arholiad i Angela) ond dwi wedi cael fy synnu efo safon yr
> iaith. Mae'r papur dwytha dwi newydd ddechrau arno yn gywilyddus - fel y
> lleill, mae'r eirfa pwnc gan yr ymgeisydd, ond nad oes ganddo syniad sut i
> lunio brawddeg yn gywir.
>
> Dwi'n derbyn mai dealltwriaeth o'r pwnc ydi'r peth pwysicaf, ond ydi'r
> arholwr wir i fod i anwybyddu'r holl gamgymeriadau? Os ydi'r ymgeisydd yn
> amwys iawn - siawns ein bod ni i fod i adlewyrchu hynny!
> Ydi athrawon yn cael eu cynghori i anwybyddu iaith y disgybl cyn belled a'i
> fod yn deall y pwnc?
> Mae gen i ffrind sy'n athrawes uwchradd, ond dwi rioed wedi meddwl ei holi
> hi am hyn.
>
> Dwi'n gwbod mai canran fach iawn o'r holl bapurau ydw i wedi'u gweld, ond
> mae'r holl drafod ma wedi codi llawer o gwestiynnau a phryderon yn fy meddwl
> i.
>
>
> Gwenllian
>
>
>
>
>
>
> ________________________________
> Play your part in making history - Email Britain!
>
|