Helo Huw
Un enghraifft a ddaeth i fy meddwl oedd *blin*
'Mae'n flin gen i' - mae'n ddrwg gen i
A 'blin' - mewn tymer ddrwg
Hefyd 'da ni'n tueddu i ddweud ei bod hi'n flin pan mae'r tywydd yn drymaidd yn ochra Llyn a mannau eraill mae'n debyg.
Cofion
Gwenda
Gwenda Jones
Cyfieithydd/ Translator
Pencadlys yr Ymddiriedolaeth/ Trust Headquarters
Ysbyty Maelor Hospital
Est/Ext: 5997
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Huw Roberts
Sent: 10 May 2007 10:48
To: [log in to unmask]
Subject: I'r gwrthwyneb
Annwyl gyfeillion,
Rwy*n chwilio am eiriau sydd ag union yr un sillafiad, ond ag ystyr gwrthwynebol. Enghraifft
Saesneg yw *cleave* * hynny yw, beth wnewch chi â bwyell, a *I cleave to thee, my
country*.
Dwi wedi meddwl am *dwyn* * *Rwy*n dwyn yr enw Huw Roberts* a *Rwy*n dwyn eich
bwyell*.
Diolch yn daclus o flaen llaw.
Huw Roberts
Cyfieithydd / Translator
(029) 2078 1432
07957 182 087
[log in to unmask]
Dros Gymru'n gwlad!
_________________________________________________________________
Links to North East Wales NHS Trust email disclaimers.
Cymraeg
www.newalesnhstrust.org.uk/index.php?page=emaildisclaimer&lang=w
English
www.newalesnhstrust.org.uk/index.php?page=emaildisclaimer&lang=en
_________________________________________________________________
|