Call for papers / Galwad am bapurau :
(Bilingual Message in Welsh and in English)
Prifysgol Cymru Aberystwyth / University of Wales Aberystwyth
2-3 Tachwedd / November 2007
Cynhadledd Ryngwladol i nodi chwarter canrif cyntaf darlledu gan S4C /
International Conference to mark the first 25 years of broadcasting by S4C (Welsh language television)
* * * * * *
Prifysgol Cymru Aberystwyth
S4C: y chwarter canrif cyntaf
2-3 Tachwedd 2007
Galwad am Bapurau (SCROLL DOWN FOR ENGLISH)
Mae Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu mewn cydberthynas â Sefydliad Diwydiannau Cyfathrebu a Chreadigol Cymru ynghyd â Chanolfan Mercator ar gyfer Ieithoedd Llai yn cynnal cynhadledd ddeuddydd ryngwadol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i nodi 25 mlwyddiant y darllediad cyntaf gan S4C ar 1 Tachwedd 1982.
Mae'r Gynhadledd yn gwahodd cyfraniadau gan ystod eang o bobl - ymchwilwyr ac ysgolheigion ac hefyd gan bobl sydd ac a fu'n gweithio yn y diwydiant neu sydd ac a fu'n gysylltiedig â meysydd polisi perthnasol. Bwriad y Gynhadledd yw dadansoddi digwyddiadau arwyddocaol ac archwilio penderfyniadau allweddol a gymerwyd ar wahanol adegau ar hyd ymdaith sylweddol S4C o gyfnod ymgyrch chwedlonol hyd at weledigaeth bresennol y sianel ynglyn â'i swyddogaeth a'i safle mewn byd ôl-analog, aml-blatfform, gyda'r farchnad yn arwain.
Yn ogystal â phapurau academaidd, cyflwyniadau, siaradwyr a thrafodaeth, bwriad y Gynhadledd yw cynnal nifer o sesiynau llygaid-dyst, gan wahodd unigolion allweddol i gynnig tystiolaeth o'u cyfraniad hwy i greu / datblygu S4C drwy gyfweliad.
Er fod ffocws Gymreig bendant i'r Gynhadledd hon, croesewir papurau a fydd yn cyfeirio at safle S4C fel y darlledwr penodol cyntaf mewn iaith leiafrifol ac yn cyflwyno dadansoddiadau cymharol rhyngwladol.
Dylid danfon cynigion o tua 500 o eiriau neu awgrymiadau ar gyfer trafodaethau panel at [log in to unmask] i gyrraedd dim hwyrach na 30ain Mehefin 2007. Danfonir cadarnhad i'r cynigion a gymeradwyir erbyn 20fed Gorffennaf 2007.
Fe drafodir, ymysg eraill, y pynciau canlynol:
* S4C fel grym ym mae diwylliant, economi a iaith yn Nghymru
* Y berthynas rhwng S4C a darlledwyr erail yng Nghymru a'r DG
* S4C fel arloeswr darlledu mewn ieithoedd lleiafrifol
* S4C yn lledaenu cynnwys aml-blatfform
* S4C a hyfywedd diwylliannol yng Nghymru
* Comisiynu a rhaglenni
* Cynnwys
* Cynulleidfaoedd, dinasyddion a defnyddwyr
Gellir derbyn cynigion papurau yn y Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg, Catalaneg a Galisieg. Fodd bynnag, dylid cyflwyno'r papur terfynol yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Trefnir cyfieithu rhwng BSL drwy ymgynghori â chynadleddwyr o flaen llaw. Croesewir papurau gan ymchwilwyr ifanc neu newydd.
* * * * * *
University of Wales Aberystwyth
S4C: the first 25 years
2-3 November 2007
Call for Papers
The Department of Theatre, Film and Television Studies in association with the Wales Institute for Cultural and Communication Industries and the Mercator Centre for Minority Languages is hosting a two day international conference at the National Library of Wales in Aberystwyth to mark the 25th anniversary of the first broadcast by S4C, the Welsh language television channel, on 1st November 1982.
The Conference seeks contributions from a wide range of participants - academics researchers, professionals, practitioners and policy formulators - and aims to analyse significant events and scrutinise major decisions taken in the trajectory of S4C from the legendary broadcasting campaign right through to the channel's vision of its future role and position in the market-led, post-analogue, multi-platform world.
In addition to academic papers and presentations, keynote speeches and panel discussion, the Conference will hold a number of unique witness sessions during which key figures will be interviewed in depth on the subject of their role in the creation / development of S4C.
While the focus of this Conference is firmly on S4C as a Welsh language broadcaster, its position as the first dedicated minority language channel will be addressed through the comparative international context and papers addressing this issue are also very welcome.
Abstracts of approximately 500 words or suggestions for panel discussions should be sent to [log in to unmask] to arrive no later than 30th June 2007. Notification of acceptance will be sent by 20th July 2007.
Topics to be discussed include, but are not limited to:
* The emergence of S4C as a cultural, economic and linguistic force in Wales
* The relationship between S4C and other broadcasters in Wales and the UK
* S4C as pioneer of minority language broadcasting
* S4C as multi-platform content disseminator
* S4C and cultural vitality in Wales
* Commissioning and programming
* Content
* Audiences, citizens and consumers
Abstracts submitted for consideration can be accepted in Welsh, English, French, Spanish, Catalan and Galician. Final papers, however, should be submitted in Welsh or English. Translation into and from BSL will be arranged in consultation with participants.
|