Annwyl garedigion y Cylch,
Rwy wedi rhoi fy nghaniatad i Ann Corkett dorri rheol arferol y Cylch
ynghylch defnyddio'r cyfrwng i ledaenu negeseuon gwleidyddol ac ati
oherwydd fod y mater hwn yn un o bwys i'r proffesiwn cyfieithu ym mhob
man. Rwy'n atgynhrychu neges Ann isod, ond os gwelwch yn dda, peidiwch
รข defnyddio welsh-termau-cymraeg i gychwyn trafodaeth ar y mater. Yn lle
hynny gyrrwch unrhyw sylwadau yn uniongyrchol at Ann, neu defnyddiwch
fforwm Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Yn gywir,
Delyth
Neges Ann:
O ymateb i bob anghyfiawnder ac angen, buan y byddai rhywun yn llosgi
allan ac yn mynd i'r wal, heb son am orlwytho pob cylch trafod gyda
negeseuon amherthnasol. Anfonaf hon, gyda chaniatad y rheolwr, gan fod
yr achos yn un sy'n ymwneud a chyfieithwyr yn arbennig, ac yn un lle y
gall cyfieithwyr, o bosibl, wneud gwahaniaeth fel grwp.
Wythnos i ddydd Sul, 'roedd erthygl yn "The Sunday Times", "British
abandoned us, say Basra interpreters". Sonnir am ladmeryddion sydd wedi
gwneud gwaith peryglus i luoedd Prydain ers blynyddoedd, ac yn y diwedd
wedi ffoi o'r wlad oherwydd bygythiadau i'w bywydau. Mae rhyw 50
ohonynt yn Namascus, yn Syria, yn unig, rhai efo'u teuluoedd. 'Roedd
pob un a holwyd yn berchen ar lythyrau geirda gan ei brif swyddogion yn
y fyddin, ond ni chant hyd yn oed fynd i mewn i lysgenhadaeth Prydain i
ofyn am noddfa neu gefnogaeth ariannol. Sylw'r Weinyddiaeth Amddiffyn
yw bod ei "dyletswyddau cytundebol" yn dod i ben wrth i sifiliaid adael
ei gwasanaeth.
O holi "Human Rights Watch" a'r "Refugee Council" deallaf fod llythyr
agored ar ei ffordd at y Prif Weinidog ynghylch cyflwr y niferoedd
enfawr o ffoaduriaid sy'n gadael Irac. Bydd y datganiadau i'r wasg (a
gyhoeddir yfory) yn tynnu sylw arbennig at sefyllfa'r rhai a fu'n
gweithio i Brydain cyn gadael y wlad. Gobeithiaf ysgrifennu fy hun at
bapurau newydd Cymru, a rhai unigolion eraill, i leisio cefnogaeth i'r
cyfieithwyr yn arbennig. Os hoffai unrhyw un gael copiau o ddogfennau
ar y pwnc, cysylltwch a fi'n uniongyrchol.
Os ydych chi'n adnabod cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd eraill, nad
ydynt yn aelodau o Welsh-Termau-Cymraeg na rhestr trafod y Gymdeithas,
byddwn i'n ddiolchgar pe gallech anfon y neges hon ymlaen atynt.
Gyda llawer o ddiolch am eich amynedd,
Ann Corkett (01248 371987; [log in to unmask])
Yn y cyfamser, gellid gweld rhagor o wybodaeth cyffredinol ynghylch
ffoaduriaid Irac ar wefan Human Rights Watch (www.hrw.org
<http://www.hrw.org/>) neu drwy ddarllen yr erthyglau isod:
O'r 'Independent'
http://comment.independent.co.uk/commentators/article2332022.ece
O'r 'Wall Street Journal'
http://online.wsj.com/article_email/SB117151023978009532-lMyQjAxMDE3NzExNTUxMTUwWj.html
--
Mae'r e-bost yma'n amodol ar delerau ac amodau ymwadiad e-bost Prifysgol
Cymru Bangor. Gellir darllen testun llawn yr ymwadiad yma:
http://www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer
This email is subject to the terms and conditions of the University of Wales,
Bangor email disclaimer. The full text of the disclaimer can be read here:
http://www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer
|