I mi, mae hysbyslen yn golygu taflen ar-wahan.
Dwi'n meddwl bod "erthygl hysbysebu" yn iawn, neu "hysbyseb cudd" falle?
Hysbyseb storïol?
Maen nhw'n ymddangos yn Golwg weithiau - be sy'n cael ei arfer yn fanno
tybed? Stori hys-bys?
----- Original Message -----
From: "Melanie Davies" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, April 16, 2007 11:27 AM
Subject: Re: advertorial
> Gair gwneud yw hwn ond beth am hysbyslen - sy'n debyg i newyddlen ac ati?
>
> ----- Original Message -----
> From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Monday, April 16, 2007 11:25 AM
> Subject: advertorial
>
>
> A oes rhywbeth mwy bachog nag "erthygl hysbysebu" am "advertorial".
>
> "An advertisement in a magazine that is written by an advertiser to appear
> like an ordinary article."
>
> Dw i ddim yn meddwl bod "hysbyserthygl", "hysbyslith" nac "hysbyseitem" yn
> gweithio rywsut. Be
> chi'n feddwl?
|