Maddeuwch sylw sy'n amherthnasol i'n priod faes ni am eiliad, ond...
onid yw'r ffordd y mae pob awdurdod yn gweithredu ar wahân mewn etholiadau
yn enghraifft amlwg lle gallai cydweithredu arbed arian i'r trethdalwyr, pe
bai yna un archeb sylweddol am yr holl waith dylunio, argraffu, dosbarthu
etc yn lle degau o fân archebion sy'n methu manteisio ar yr arbedion
ariannol sy'n bosibl wrth brynu ar raddfa fawr?
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ann Wiliam
Anfonwyd/Sent: 13 April 2007 11:38
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Lliwiau
Diolch Mererid.
Roedd rhai awdurdodau'n defnyddio "samwn" y tro diwethaf a 'dwi ddim yn
cofio beth oeddent yn ei roi am "lilac"- nid "lelog" beth bynnag. Mae gen
i restr o 11 o liwiau a hwyrach y bydd ychwanegiadau os bydd rhai
awdurdodau'n defnyddio lliwiau eraill. Fe fyddai'n llawer haws petai'r
gwahanol awdurdodau'n defnyddio'r un lliwiau ar gyfer y gwahanol
etholiadau - dim ond tri fyddai eu hangen wedyn.
Ann
|