Eto, os am fenthyg gair, onid oes angen ei roi ar ffurf sy'n cyd-fynd â
chonfensiynau sillafu'r iaith? Beth fyddai'n dod i feddwl Dilys Price
Pontypandy o weld 'foyer' yng nghanol brawddeg Gymraeg? Boi bach truenus yn
cwato yn y perthi ac yn edrych drwy ffenestri pobl?!
Er nad ydynt mor gryno â'r gair Ffrangeg/Saesneg, fe fyddai rhywbeth fel
'preswylfa ieuenctid', 'gartrefle ieuenctid' neu (a dilyn awgrym Magi)
'noddfa ieuenctid' yn rhoi i'r darllenydd well syniad am beth sy'n cael ei
drafod - ac efallai hyd yn oed annog y darllenydd i droi at y Gymraeg i gael
rhywfaint o sens!
Neu, llecyn i'r glaslencyn = 'glaslecyn'!! - [ddim o ddifri]
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Claire
Richards
Anfonwyd/Sent: 09 March 2007 09:20
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Foyer/s
Diolch i bawb am ateb.
Gan fod y gair 'aelwyd' yn cael ei ddefnyddio gan yr Urdd ers blynyddoedd,
roeddwn i'n petruso ei ddefnyddio ar gyfer 'foyer'.
Byddwn ni'n cadw at y gair Ffrangeg, dwi'n meddwl, yn enwedig o gofio mai
cysyniad o Ffrainc yw hwn yn wreiddiol, ac o gofio tystiolaeth Magi bod
'foyer' eisoes yn cael ei ddefnyddio felly.
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Pawl
Sent: 08 March 2007 00:00
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Foyer/s
Ond nid cyntedd ydy foyer mewn Ffrangeg ond 'aelwyd'!
Pawl.
Paul W. Birt, PhD
Chaire d'Études celtiques,
Université d'Ottawa,
70, rue Laurier,(131)
Ottawa,
K1N 6N5
Ontario
Canada
www.modernlanguages.uottawa.ca/celtic.html
Tél. (613)562-5800(3767)
Téléc/Fax (613)562-5138.
-----Original Message-----
From: David Bullock <[log in to unmask]>
Date: Thu, 8 Mar 2007 17:39:19
To:[log in to unmask]
Subject: Re: Foyer/s
Mae Cofnod y Cynulliad wedi defnyddio 'cyntedd' i gyfateb i 'foyer' yn y
cyd-destun yma, e.e.
http://www.cymru.gov.uk/cms/1/ChamberSession/38034064000E165A000034F7000000
00/3CBD89730001F5AF0000170C00000000.html
Mae'r un gair gan Lywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn "Costau a Manteision
y Rhaglen Cefnogi Pobl" sydd ar gael yn
http://www.ecoliinquirywales.org.uk/docrepos/40382/sjr/research/supportpeop
lew?lang=cy
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.446 / Virus Database: 268.18.8/714 - Release Date: 08/03/2007
10:58
--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.446 / Virus Database: 268.18.8/714 - Release Date: 08/03/2007
10:58
|