Rwy'n meddwl efallai fod y 'mwy' yma yn gwrthsefyll treiglo'n adferfol; yng
Ngramadeg PWT 6.47 (t.432) ceir rhestr o'r geiriau nad ydynt yn treiglo yn
adferfol:
"Os 'cyn', 'mor', 'mwy' neu 'rhagor' fydd y gair cyntaf mewn Adferfol, neu
os 'mwy', 'mwyach' neu 'toc' fydd yr unig air ynddo, nis treiglir o gwbl....
Gellir, fodd bynnag, dreiglo 'mwy', ond dim ond pan fydd:
i. yn Wrthrych i ferf bersonol, e.e.
Cymerodd fwy na'i ddogn. ....
ii. yn ddibeniad i arddodiad, e.e.
Yr oedd y bil yn fwy na'r disgwyl..."
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ann Wiliam
Anfonwyd/Sent: 23 March 2007 12:31
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ATB: mwy nag/fwy nag
Diolch i'r ddwy ohonoch. Dyna oeddwn innau'n feddwl hefyd ond roeddwn yn
cael trafferth i berswadio'r cwsmer gan mai "pleidlesio mwy nag unwaith"
sydd yn yr Offerynnau Statudol diweddaraf.
Ann
|