Eisiau cadarnhad ydw i plis
Chewch chi ddim dweud "mae'r pryf yn bwydo ar goed derw", gewch chi?
Yn ôl GPC, berf anghyflawn yn unig yw "bwydo" ac yn ôl GyrA, "bwyta" neu "ymborthi ar" yw "feed" yn
y cyd-destun yma.
Fy mhroblem i yw 'mod i'n golygu testun lle mae "bwydo ar" yn digwydd rai cannoedd o weithiau. Dw
i wedi dechrau eu newid nhw ond dw i wedi'i weld e gmor aml mae'n dechrau ymddangos yn iawn i
mi!
Mae "ymborthi ar" yn gallu swnio braidd yn stiff ond weithiau mae'n cyfleu'r ystyr yn well na "Mae'r
pryf hwn yn bwyta coed derw" - sy'n swnio fel ei fod yn bwyta'r dderwen o'i chwr!
Weithiau mae modd aralleirio a dweud rhywbeth fel "Coed derw yw prif fwyd y pryf hwn" .
Ydw i'n iawn?
Diolch
Siân
|