Parr = "brithyll(od) brych" a Smolt = "gleisiad, gleisiad eog" yn ol Termau
Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, os yw hynny o unrhyw gymorth.
Parr = "gleisiad (gleisiaid)" a Smolt = "gleisiad (gleisiaid), gwyniad
(gwyniaid), glasfaran(od)" yn ol Geiriadur yr Academi: ond y mae "gwyniad"
hefyd yn enw ar bysgodyn cwbl wahanol i'r eog, sef Coregonus lavaretus Llyn
Tegid.
Yn ol Maldwyn Thomas, Dolgellau, "aden goch" y gelwir "smolt" (sef eog
ifanc ar ei daith tua'r mor) yn yr ardal honno, a gallai "gleisiad"
olygu "parr", "smolt" neu "grilse" eog. (Y Naturiaethwr, Cyfres 2, Rhif 8,
2001 tud.43). Y mae ei erthygl yn tanlinellu'r ffaith fod gwahanol enwau
lleol hefyd ar amryw gamau cylch bywyd yr eog.
Yn ol www.ukbap.org.uk/library/TREBAP_Welsh, "eog" = Salmo salar,
ond "gleisiad" = Salmo trutta, sef y brithyll mudol.
Yn gryno, ymddengys nad oes cytundeb ynghylch sut mae cyfieithu "parr"
a "smolt" i'r Gymraeg, a derbyn bod ni ei siaradwyr yn gweld unrhyw angen
gwahaniaethu rhyngddynt. Efallai mai "parr" = gleisiad a "smolt =
glasfaran" fyddai egluraf.
|