Os ansoddair yw "rain" yn "rain coat", ydyn ni'n mynd i ddecrhau galw cot
law yn got lawol, cot lawaidd, cot laweiddiolusgarol, neu beth bynnag
fyddai'r ansoddair?!
A beth am "school dinner" wedyn - os ansoddair yw "school", beth am ddweud
cinio ysgoliol, cinio ysgoliadol, cinio ysgoleiddgar...
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Howard Huws
Anfonwyd/Sent: 02 March 2007 11:09
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Port Marine Safety Code
Os ansoddair yw "Port" yn "Port Marine Safety Code", ai "Cod Diogelwch
Morol Porthladdol" fyddai hynny yn Gymraeg? Ni chyfyngir y cod i unrhyw
borthladd neilltuol, felly efallai nad addas fyddai "Porthladd" yn yr achos
hwn. "Porthladdoedd", efallai?
|