Paid byth ag ofni anghytuno ā fi, Sian. Ymbalfalu am y goleuni ry'n ni i
gyd!
Wrth gynnig 'allanoli' yn fy neges wreiddiol, roeddwn i'n sylweddoli ei fod
hefyd yn derm a ddefnyddir i gyfleu 'to externalise' a hynny gan mwya ym myd
emosiwn ac ati, ond welwn i ddim rheswm dros addasu rhywfaint ar ei ystyr i
gyfleu 'to outsource' hefyd gan mai symud o'r tu mewn i'r tu allan yw hanfod
y broses.
Yr unig beth a'm poenai i ar y pryd oedd nad oedd 'allanoli' o reidrwydd yn
cynnwys yr elfen o 'gynhyrchu mewn man arall ac yna gyflenwi i'r sawl a'i
harchebodd', ond mae'n bosib nad yw hynny'n digwydd ym mhob achos. Er
enghraifft, gall y cynnyrch fynd yn syth o'r ffatri i un o siopau'r cleient,
neu hyd yn oed i rywle arall, heb iddo o reidrwydd fynd i bencadlys y
cleient i'w anfon ymlaen i'r siop neu'r cwsmer.
Gallai 'rhoi gwaith allan' fod yn llawn cystal cyfieithiad, am wn i.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Siān Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Sunday, March 18, 2007 11:40 AM
Subject: Re: outsourcing
Yn ōl GyrA, "externalize" yw "allanoli" sef
1. to express ideas or feelings in some visible or perceptible way in
order to communicate them to others
2. to attribute something to causes in the outside world
3. to attribute emotions or inner conflicts to outside causes,
sources, or surroundings
Encarta® World English Dictionary © 1999 Microsoft Corporation. All
rights reserved. Developed for Microsoft by Bloomsbury Publishing Plc.
On 18 Mawrth 2007, at 10:59, Dafydd Lewis wrote:
> Roeddwn i ar fin gwneud yr un sylw a Neil.
> Mae'n debyg bod dewis, ac y byddai'r ddau derm yn dderbyniol. 'Allanoli'
> sy'n cael ei ddefnyddio'n gyffredin, dwi'n meddwl, ond wela i ddim o'i le
> ar y llall chwaith.
> Dafydd
>
>
>
>
> On Sat, 17 Mar 2007 21:02:15 -0000, Neil Shadrach
> <[log in to unmask]> wrote:
>
>> Siān Roberts :-
>>
>>> Dw i ddim yn licio anghytuno ā Berwyn ond, i mi, mae "allanoli" yn
>>> swnio
>> fel "anfon rhywbeth allan"
>>> yn hytrach na chymryd rhywbeth i mewn.
>>
>> Ond dyna'n union beth sy'n digwydd i'r gwaith - mae'n cael ei anfon i
> rywle
>> arall
>>
>> Neil Shadrach - sy'n trosgwlyddo peth o'i waith i India ar hyn o bryd :(
>>
>> --
>> No virus found in this outgoing message.
>> Checked by AVG Free Edition.
>> Version: 7.5.446 / Virus Database: 268.18.13/725 - Release Date:
> 17/03/2007
>> 12:33
>>
>> ===================================================================== ===
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.446 / Virus Database: 268.18.13/725 - Release Date: 17/03/2007
12:33
|