> gan fod ffon-ar-lon hefyd yn derm am y teclyn ei hun (diolch, Berwyn), be am
> ffon-ar-lon - nid ar y lon.
Ai dim ond fi sydd yn meddwl fod hyn yn wallgo? Mae'n dangos sut mae
bathiadau di-synnwyr yn creu problemau nes ymlaen.
Mae'n bosib defnyddio ffôn symudol yn unrhywle, dyna ei bwrpas. Nid
jyst mewn car 'ar y lôn' (sy'n golygu 'ar yr hewl', nid rhywbeth mwy
cyffredinol fel 'wrth deithio'). Yn wir, oherwydd y perygl o ddefnyddio
ffôn wrth yrru, mae 'ffôn-ar-lôn' yn disgrifio defnydd lleiafrifol o'r
'mobile'. (fel petai'r saesneg yn cyfeirio at eu mobiles fel 'carphone',
sydd ddim wedi bod yn wir ers yr 80au cynnar).
Ond wrth dderbyn y bathiad yna yng nghyd destun ymgyrch yn erbyn
defnyddio ffôn wrth yrru, mae'n rhaid gwrth-gyferbynnu y bathiad
gwreiddiol. ffôn-ar-lôn ond ddim ar y lôn!!
nyts
(diolch byth mae llond llaw o bobl sy'n defnyddio 'ffôn-ar-lôn' a mae
'ffôn symudol' mae pobl gall yn ei ddefnyddio.)
|