Wrth gwrs y dylid sgwennu'n naturiol a chlir os oes modd, *a hynny yn y
Saesneg hefyd*. Os yw "building" yn gwneud y tro yn Saesneg, pam defnyddio
"premises"? Ar y llaw arall, os oes ystyr cyfreithiol penodol i 'premises'
(sy'n cael ei wanhau bob tro mae rhywun yn camddefnyddio'r gair er mwyn
dangos ei hun), mae rhaid dewis gair cyfreithiol penodol yn y Gymraeg hefyd.
Yn achos rhai o'r ymatebion yn yr erthygl, rhaid gofyn pam mae pobl yn barod
i dderbyn pob math o jargon yn y Saesneg, ond ar fin llewygu os bydd rhywun
yn awgrymu gair Cymraeg nad ydynt wedi arfer ag o ers dyddiau ysgol?
Ann
----- Original Message -----
From: "Manon Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, January 03, 2007 3:20 PM
Subject: Re: Mangre
> Mangre!
> Hurt bost!
> Ydi'r arwyddion hyn wedi cael eu paratoi eisoes? Ydi hi'n rhy hwyr i ofyn
> i `arbenigwyr' y Cynulliad gallio?
>
> Manon
> Geiriadur Prifysgol Cymru
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.5.432 / Virus Database: 268.16.3/614 - Release Date: 02/01/2007
> 14:58
>
>
|