Diolch - nodyn gwerthfawr dros ben. Tim . . .
Diolch ichi am eich sylwadau. Dyma ateb ar ran Gwasanaeth Cyfieithu
Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Yr hyn sydd i'w weld yn TermCymru yw tystiolaeth o'r broses o ddatblygu
ieithwedd ddeddfwriaethol yn Gymraeg. Mewn gwirionedd, dechreuodd y broses
gyda dyfodiad y Cynulliad yn 1999 ac mae'n dal i fynd rhagddi. I fod yn
fanwl gywir, nid yw TermCymru yn cynnig termau Cymraeg am na 'food additive'
na 'food supplement' - yr hyn a geir yw teitlau is-ddeddfwriaeth sy'n
cynnwys y termau hyn.
Mae teitlau deddfwriaeth yn haeddu statws 1 achos unwaith i offeryn gael ei
wneud, nid oes modd ei newid ond drwy offeryn statudol arall, felly rhaid
defnyddio'r teitl hwnnw.
Fel y mae Claire yn nodi, ar sail y diffiniadau yn y ddeddfwriaeth
berthnasol, mae 'food supplement' a 'food additive' yn ddau gysyniad
gwahanol. Yn y bôn, mae rhyw fudd maethol mewn 'supplement' nad oes rhaid
iddo fod mewn 'additive'.
Wrth lunio'r testun Cymraeg ar gyfer set newydd o reoliadau ar 'food
supplements' a ddaw i rym eleni daeth y gwahaniaeth hwn yn glir ac felly
penderfynwyd gwahaniaethu rhwng y ddau gysyniad drwy alw 'food supplements'
yn 'atchwanegiadau bwyd' a chadw 'ychwanegion bwyd' ar gyfer 'food
additives'. Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn ymgynghori ar y Rheoliadau hyn
ar hyn o bryd
<http://www.foodstandards.gov.uk/consultations/consultwales/2006/suppwales20
07>
http://www.foodstandards.gov.uk/consultations/consultwales/2006/suppwales200
7
(Mae'n ymddangos mai dim ond y testun Saesneg sydd ar ei gwefan)
Rhoddwyd 'atchwanegiad' yn TermCymru yn sgil y penderfyniad a wnaed i
wahaniaethu rhwng 'atchwanegiad' ac 'ychwanegyn' gan y Cyfieithwyr
Deddfwriaethol, sy'n esbonio pam y mae ganddo statws 4. Nid yw'r term wedi
mynd drwy'r camau safoni a fyddai'n rhoi statws 3, 2, neu 1 iddo. Ond
'atchwanegiad' a ddefnyddir yn y ddeddfwriaeth o hyn ymlaen am 'supplement'
oni bai bod teitlau neu destunau o ddeddfwriaeth sydd eisoes wedi'i gwneud
yn cael eu dyfynnu.
Fe roddwn ni nodyn esboniadol yn TermCymru gyferbyn â theitl y rheoliadau
lle ceir 'supplements - ychwanegion'.
Audrey
Audrey Ellis
Swyddog Cymorth Terminoleg / Terminology Support Officer
Y Gwasanaeth Cyfieithu / Translation Service
Llywodraeth Cynulliad Cymru / Welsh Assembly Government
Ffôn / Tel: 01267 225292
E-bost / E-mail: [log in to unmask] <
mailto:[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>
>
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Post
Sent: 11 January 2007 14:46
To: [log in to unmask]
Subject: food supplements
Yn ôl TermCymru, 'ychwanegion bwyd' yw 'food supplements', a nodir
The Food Supplements (Wales) Regulations = Rheoliadau Ychwanegion Bwyd
(Cymru) 2003.
Ond eto yn ôl TermCymru mae 'ychwanegion bwyd' hefyd yn golygu 'food
additives', a nodir
The Miscellaneous Food Additives (Amendment) (Wales) Regulations 2002 =
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002
Diffiniad 'ychwanegyn bwyd/food supplement' o'r Rheoliadau cyntaf yw "any
food the purpose of which is to supplement the normal diet and which (a) is
a concentrated source of a vitamin or mineral or other substance with a
nutritional or physiological effect, alone or in combination; and (b) is
sold in dose form"
ac yn Gymraeg "unrhyw fwyd sydd wedi'i fwriadu i ychwanegu at ddeiet normal
ac sydd (a) yn ffynhonnell grynodedig o fitamin neu fwyn neu sylwedd arall
ag effaith faethol neu ffisiolegol, ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad; a
(b) yn cael ei werthu ar ffurf dogn"
Diffiniad 'food additive" yn The Miscellaneous Food Additives Regulations
1995 yw "(a) any substance not normally consumed as a food in itself and not
normally used as a characteristic ingredient of food, whether or not it has
nutritive value, the intentional addition of which to food for a
technological purpose in the manufacture, processing, preparation,
treatment, packaging, transport or storage of such food results, or may
reasonably be expected to result, in it or its by-products becoming directly
or indirectly a component of such foods; or (b) a carrier or carrier
solvent"
'Does dim esboniad o ystyr yr ymadrodd yn rheoliadau Cymru, nad ydyn nhw ond
yn diwygio rheoliadau 1995.
Nawr, o dan 'supplement' ar TermCymru ceir 'atchwanegiad', gyda nodyn o dan
y gair Saesneg "A substance to remedy the deficiencies in a person's diet",
a nodyn o dan y gair Cymraeg "Er mwyn tynnu gwahaniaeth rhyngddo ac
'ychwanegyn' ('additive') ac 'ategolyn' ('accessory')". Ond dim ond statws
4 sydd i 'atchwanegiad', ac wrth gwrs nid dyma ddefnyddir yn y
ddeddfwriaeth.
Hm...
Claire
PLEASE NOTE: THE ABOVE MESSAGE WAS RECEIVED FROM THE INTERNET.
On entering the GSi, this email was scanned for viruses by the Government
Secure Intranet (GSi) virus scanning service supplied exclusively by Energis
in partnership with MessageLabs.
Please see http://www.gsi.gov.uk/main/notices/information/gsi-003-2002.pdf
for further details.
In case of problems, please call your organisational IT helpdesk.
NODER: DERBYNIWYD Y NEGES HON O'R RHYNGRWYD.
Wrth fynd ar GSi, cafodd y neges e-bost hon ei sganio am feirysau gan
wasanaeth sganio feirysau Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSi) a ddarperir
yn arbennig gan Energis mewn partneriaeth â MessageLabs.
Gweler http://www.gsi.gov.uk/main/notices/information/gsi-003-2002.pdf i
gael mwy o fanylion.
Os cewch unrhyw broblem, ffoniwch desg gymorth TG eich sefydliad.
--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.432 / Virus Database: 268.16.8/621 - Release Date: 09/01/2007
13:37
The original of this email was scanned for viruses by the Government Secure Intranet (GSi) virus scanning service supplied exclusively by Energis in partnership with MessageLabs.
On leaving the GSi this email was certified virus-free.
Mae fersiwn wreiddiol y neges e-bost hon wedi'i sganio am feirysau gan wasanaeth sganio feirysau Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSi) a ddarperir yn arbennig gan Energis mewn partneriaeth â MessageLabs.
Wrth i'r neges e-bost hon adael GSi, ardystiwyd nad oedd firws ynddi.
|