Rwy'n aelod o grŵp Freecycle Sir Gâr, syniad arbennig o dda. I unrhyw un nad yw'n gyfarwydd â'r syniad, gall aelodau gynnig eu nwyddau diangen - popeth o hanner dwsin o lyfrau Mills & Boon i geir - i aelodau eraill fydd yn eu defnyddio nhw yn hytrach na'u twlu nhw ma's gyda'r sbwriel. Gallwch hefyd wneud cais am unrhyw beth sydd ei angen arnoch.
Fyddwn i ddim yn cyfieithu'r enw, dim mwy na byddwn yn cyfieithu 'Google'. O ran ei ddefnyddio fel berf, 'cynnig ar Freecycle'; 'cael ar Freecycle' ac ati efallai?
Gobeithio bod hyn yn help
Hg
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Rhys Iorwerth
Anfonwyd/Sent: 31 January 2007 15:17
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Freecycle
Oes yna rywun erioed wedi ceisio cyfieithu hwn o'r blaen? Y broses o ailgylchu drwy roi pethau nad ydach chi eu heisiau i bobl eraill am ddim, yn hytrach na'u hailgylchu nhw yn ystyr arferol y gair. O be wela' i ar y we mae lot o wefannau cymraeg yn dal i ddefnyddio'r gair Saesneg, ond rhag ofn fod yna rywun wedi bathu term yn y gorffennol...
|