Er 'mod i'n hoffi 'gwladwriaeth faldodi' fel ymadrodd (byddai 'gwladwriaeth
faldodus' wedi bod yn well, efallai), rwy'n amau'n fawr ai dyna'r ystyr. Nid
maldod fyddai nani'n ei roi i blant bach y boneddigion slawer dydd, ond
cerydd llym i'w cadw ar y llwybr cul. Cyfleir ystyr 'nanny state' yn y ddau
ddyfyniad:
'A law is Nanny Statist if its aim is not to protect you from criminals,
murderers, or thieves, but to protect you from yourself.'
'Nanny Statists believe that with enough taxes, prohibitions, public
relations campaigns, and public service announcements, we can use the power
of the government to alter and influence private behaviour.'
Nid maldodi, felly, ond dweud y drefn yn amlach na pheidio. Roedd cynnig
Huw - 'dan y fawd' - dipyn nes ati. Efallai y byddai rhyw ffurf fel
'gwladwriaeth gyfarwyddol', 'gwladwriaeth gwybod-yn-well' (neu gynnig gwell
...) yn rhagori.
Ymddiheuriadau am ymateb yn hwyr - rôn i mewn cyfarfod yn Aber i lunio
hysbyseb am swydd Prif Weithredwr newydd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru gan
fod Megan yn ein gadael. Hoffai rhywun wneud cais am y swydd? Wps, dyna fi
wedi camddefnyddio'r cylch! Rwy'n syrthio ar fy mai - yn llawen.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Eirian Youngman" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, January 19, 2007 12:10 PM
Subject: Re: Nanny state
> Diolch Muiris - defnyddiol iawn! Da o beth bod rhai ohonom wedi deall y
> manylion technegol yma ac yn gallu eu rhannu gydag eraill!
>
> Eirian
>
>
> ----- Original Message -----
> From: "Muiris Mag Ualghairg" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Friday, January 19, 2007 12:08 PM
> Subject: Re: Nanny state
>
>
>> Gyfeillion
>>
>> Mae modd chwilio'n fanwl drwy'r cofnod swyddogol (sef cofnod y
>> Cynulliad) gan ddefnyddio Gwgl i weld sut mae rhai pethau astrus wedi
>> cael eu cyfieithu yn y cofnod - a chymryd bod y gwleidyddion wedi
>> trafod y pethau astrus hyn. Gellwch wneud hynny drwy fynd i
>> 'Ymchwiliad uwch' ac wedyn bwydo'r term yn Saesneg yn y blwch 'yr
>> union gymal' a hefyd cyfyngu'r chwiliad i 'www.wales.gov.uk' yn y
>> blwch parthau. Mae hyn yn dod a phob enghraifft ar wefan y Cynulliad i
>> fyny. Wedyn rwy'n chwilio am 'Chamber sessions' gan fod y rheiny'n
>> ddwyieithog, rwy'n dod o hyd i'r term yn y Saesneg drwy ddefnyddio
>> 'find on this page' (Edit, Find on this page yn Internet Explorer), yn
>> edrych ar y cyfieithiad wedyn i weld sut mae cyfieithwyr y Cofnod wedi
>> ei gyfieithu - mae'n ddefnyddiol iawn fel ffordd o ddod o hyd i
>> gyfieithiadau dyfeisgar a rhai ohonynt yn rhagorol.
>>
>> Dyma a geir ar gyfer Nanny State
>>
>> Y wladwriaeth warchodol
>> Gwladwriaeth y nani
>> gwladwriaeth or-famol .... ac ati.
>>
>> Muiris
>>
>>
>
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.5.432 / Virus Database: 268.16.13/632 - Release Date:
> 16/01/2007 16:36
>
>
|