Dyddlyfr Richard Ellis yw'r llawysgrif ond dim ond darn bach ohono fel
enghraifft ar gyfer gweithgareddau plant ysgol (oddi ar wefan) sydd
gen i i'w gyfieithu. Felly, fel rydych yn dweud, dydy hi ddim yn
syniad rhy dda i adlewyrchu camsillafu. Yn rhyfedd ddigon, mae
gweddill yr orgraff, yn y rhan sy gen i, yn ddigon safonol - dyna pam
roeddwn i'n pendroni tybed oedd 'na reswm arall dros yr 'ancere'. Ond
efallai bod y gair bach hwn yn un roedd o'n dueddol o gamsillafu. Os
caf i afael ar weddill y dyddlyfr, mi edrycha i i weld ydy o'n gwneud
yr un peth eto. Beth bynnag, cymryd eich cyngor dwi am wneud.
Llawer o ddiolch am eich trafferth
Eluned
On 12/9/06, Pawl <[log in to unmask]> wrote:
> Wn i ddim byd am y llsg sy'n cael ei chyfieithu heblaw mai rhyw gyfeiriad at daith i Batagonia (Mimosa?) a glanio ym Mae Newydd sydd ynddi. Mae orgraff ansafonol y Saesneg yn awgrymu nad oedd yr awdur yn llawer o giamster ar sgwennu yn Saesneg ond ni chredaf fod hyn yn ddigon o reswm dros adlewyrchu hyn yn y cyfieithiad Cymraeg, ond barn bersonol ydy hynny! Mae'n wir fod nifer o hen ddyddiaduron y cyfnod o'r Wladfa hefyd yn frith o amrywiadau o ran orgraff yn Gymraeg, boed yn chwiw bersonol neu'n dangos dylanwad tafodieithol yr awdur. Os yw'r dyddlyfr i gyd yn ansafonol fel hyn, gellid dadlau o bosib fod cyfiawnhad dros greu rhywbeth tebyg yn Gymraeg. Ond ni fuaswn yn cymeradwyo hyn fy hun!
> Mae'n dibynnu hefyd at ba bwrpas y
> cyfieithir y ddogfen.
> Paul.
> Paul W. Birt, PhD
> Chaire d'Études celtiques,
> Université d'Ottawa,
> 70, rue Laurier,(131)
> Ottawa,
> K1N 6N5
> Ontario
> Canada
> www.modernlanguages.uottawa.ca/celtic.html
> Tél. (613)562-5800(3767)
> Téléc/Fax (613)562-5138.
>
>
> -----Original Message-----
> From: Eluned Mai <[log in to unmask]>
> Date: Sat, 9 Dec 2006 11:25:00
> To:[log in to unmask]
> Subject: Re: Droped ancere New Bay
>
> Llawer iawn o ddiolch, Paul. Mae'r wybodaeth hon am Fae Newydd o fudd
> mawr. Beth rydych chi'n feddwl am y sillafiad o'r gair 'anchor', sef
> 'ancere'? Ydy o'n rhywbeth i'w wneud efo'r hen ffurf Saesneg 'ancer'?
> Tybed ddylwn i wneud rhywbeth i gyfleu hyn yn y Gymraeg. Dwi wedi
> edrych yn GPC ac 'angor' yw 'angor' ers y 12fed ganrif (er bod un
> cyfeiriad at 'bvru aghoreu). Neu a ddylwn i roi nodyn yn rhywle i
> ddweud mai fel hyn y cafodd ei sillafu yn yr iaith wreiddiol?
>
> Llawer o ddiolch eto
>
> Eluned
>
> On 12/8/06, Pawl <[log in to unmask]> wrote:
> > Mae hyn yn swnio'n debyg iawn i gyfeiriad at Bae Newydd neu Bahia Nueva ym Mhatagonia lle cynhaeddodd y Mimosa yng Nghorffennaf1865. Bae Newydd oedd y ffurf ar lafar am gryn amser ar ôl hynny. Daeth yr enw Porth Madryn i ddisodli'r hen enw erbyn diwedd y ganrif. Ceir nifer o ddogfennau o'r cyfnod yn Gymraeg sydd weithiau cadw at yr enw Saesneg New Bay.
> >
> > Paul W Birt
> > Paul W. Birt, PhD
> > Chaire d'Études celtiques,
> > Université d'Ottawa,
> > 70, rue Laurier,(131)
> > Ottawa,
> > K1N 6N5
> > Ontario
> > Canada
> > www.modernlanguages.uottawa.ca/celtic.html
> > Tél. (613)562-5800(3767)
> > Téléc/Fax (613)562-5138.
> >
> >
> > -----Original Message-----
> > From: Eluned Mai <[log in to unmask]>
> > Date: Thu, 7 Dec 2006 22:50:08
> > To:[log in to unmask]
> > Subject: Droped ancere New Bay
> >
> > Mae hwn allan o ddyddlyfr o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Oes rhywun
> > wedi dod ar draws y math yma o beth o'r blaen? Beth ddylid ei wneud
> > wrth gyfieithu?
> >
> > Diolch o flaen llaw
> >
> > Eluned
> >
>
|