Cytuno'n llwyr Sylvia.
Rwy'n rhagweld y byddwn i'n defnyddio 'trawswladol' mewn brawddegau fel hyn yn unig ('rhyngwladol' a ddefnyddiais innau hyd heddiw i gyfleu pob 'transnational' amwys a welais):
Roedd tîm rygbi cenedlaethol Cymru yn chwarae gêm ryngwladol yn erbyn tîm trawswladol ynysoedd y Môr Tawel yn ddiweddar.
Bu tîm trawswladol y Llewod ar daith i Seland Newydd y llynedd, a chafodd rhai o chwaraewyr Cymru gyfle i ddisgleirio ar y llwyfan rygbi rhyngwladol bryd hynny hefyd.
Cofion gorau,
Huw
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Jones,Sylvia Prys
Anfonwyd/Sent: 15 Tachwedd 2006 10:36
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ATB: transnational
Huw Tegid wrote:
> Petai angen gwahaniaethu, felly, beth fyddai barn pobl ar:
>
>
> Trawswladol = Transnational
>
> Rhyngwladol = International
>
>
Rydw i wedi defnyddio trawswladol o'r blaen ac yn fy marn i mae'n dderbyniol iawn. Y cwestiwn sydd gen i ydi a oes pwynt defnyddio gair dieithr arall lle mae gair cyfarwydd fel rhyngwladol yn cyfleu'r un ystyr i bob pwrpas. Hynny yw, fel yr eglurodd Berwyn mae yna rywfaint o wahaniaeth ystyr ond fyddwn i ddim yn dweud ei fod yn wahaniaeth sylweddol nac arwyddocaol. Pan ofynnais i'r hogan yrrodd y cyfieithiad ataf i doedd hi ddim yn gallu egluro'r gwahaniaeth.
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Uned Gyfieithu/Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Cymru, Bangor/University of Wales, Bangor
--
--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.409 / Virus Database: 268.14.5/534 - Release Date: 14/11/2006
|