Ysgrifennodd Delyth Prys
> Rwy'n gwybod mod i wedi rhygnu ar y tant hwn lawer gwaith o'r blaen ond
> mae maes gwaith cymdeithasol yn un sy'n digwydd yn naturiol drwy gyfrwng
> y Gymraeg yng ngogledd a gorllewin Cymru ond nid yw'r termau y mae
> cyfieithwyr yn y de ddwyrain yn eu defnyddio yn adlewyrchu hynny...
Nid yw'n gyfyngedig i gyfieithwyr y de ddwyrain yn unig, wedi edrych
ar wefannau cynghorau Gwynedd, Sir Fôn a Sir Dinbych dyma
enghreifftiau o'r defnydd o 'Gofalwr' yn hytrach na 'Gofalydd'.
Gwynedd:
http://www.gwynedd.gov.uk/gwy_doc.asp?cat=4116&doc=14419
Pa fath o blentyn sydd angen **Gofalwr** Maeth?
http://www.gwynedd.gov.uk/gwy_doc.asp?cat=2960&doc=9514
Caniateir i aelod o'r teulu neu **ofalwr** neu ffrind fod gyda chwi yn
ystod yr Asesiad, a chroesawir unrhyw sylwadau ganddynt. Bydd y
Rheolwr Gofal yn falch o gael sgwrs ac yn barod hefyd i gynnal asesiad
annibynnol o anghenion eich gofalwr/wyr.
http://www.gwynedd.gov.uk/ADNPwyllgorau/2006/Pwyllgorau%20Craffu/Gofal/2006-10-05/cymraeg/07_02_Atodiad%201.pdf
Strategaeth Gofalwyr a fydd yn sicrhau bod y bobl hynny yng Ngwynedd
sy'n ymgymryd â rôl **Gofalwr**, yn gwneud hynny gan wybod fod yna
systemau cefnogi ar eu cyfer fydd yn eu helpu i gyflawni ar lefel
bersonol yn y rôl ofalu ac mewn agweddau eraill o'u bywydau megis
cyflogaeth, hamdden, hyfforddiant ac addysg.
Sir Fôn
http://www.anglesey.gov.uk/index.asp?Language=2
Gwnewch o ar - lein - mae amryw ffordd y gallwch ryngweithio gyda'r
cyngor a'i bartneriaid drwy'r we. Beth am...ofyn cwestiwn, ceisio am
swydd, ddod o hyd i **ofalwr** plant neu adnewyddu eich adnoddau
llyfrgell?
http://www.anglesey.gov.uk/upload/public/attachments/25/careworker.pdf
Enw a Chyfeiriad Cyflogwr y **Gofalwr** os ydyw'n wahanol i gyfeiriad
yr ymgeisydd/
Name & Address of Carer's Employer if different from Claimants:
Sir Ddinbych
http://www.denbighshire.gov.uk/Corp/Press%20Releases.nsf/93c6d199fa5270a980256f81003ad012/40165e8c53c77818802570440055267b!OpenDocument
Y Cyngor Sir yn cymeradwyo'r **gofalwr** maeth ieuengaf
http://www.denbighshire.gov.uk/CE/Councillors.nsf/e87e24edc3247f918025681d0032da2d/9359fddd2036d2eb8025712c005436cc/$FILE/cab210306PTIW.pdf
Mynegodd yr Arweinydd ei phryder ar yr effaith fyddai gofalu am
berthynas sâl yn y cartref yn ei gael ar y **gofalwr**, ac o safbwynt
Aelodau Prestatyn, roedd yn bwysig cadw rhai gwelyau GIG yn y dref.
Muiris
|