Ysgrifennodd Muiris Mag Ualghairg:
> Mae Term Cymru'n rhoi 'gofalwr' yn hytrach na 'gofalydd' ac rwy'n
> credu mai dyna sy'n arferol.
>
Mae gweithwyr cymdeithasol a'r cymdeithasau gofalu yn defnyddio
'gofalydd' - hynny am fod -ydd yn derfyniad mwy proffesiynnol (yn
cyfateb i -ist yn Saesneg) ar swydd sydd yn aml yn derbyn cyflog, er bod
nifer o ofalwyr yn gwneud y gwaith yn wirfoddol wrth gwrs. Roedd
gofalwyr hefyd yn anhapus fod 'gofalwr' yn awgrymu rhywun oedd yn edrych
ar ôl adeiladau mewn ysgol hefyd - rheswm arall dros wrthod 'gofalwr'.
Mae'r corff cenedlaethol wedi arfer 'cynhalwyr' yn eu teitl, ond wnaeth
hwn erioed cydio gan y gofalwyr eu hunain.
Rwy'n gwybod mod i wedi rhygnu ar y tant hwn lawer gwaith o'r blaen ond
mae maes gwaith cymdeithasol yn un sy'n digwydd yn naturiol drwy gyfrwng
y Gymraeg yng ngogledd a gorllewin Cymru ond nid yw'r termau y mae
cyfieithwyr yn y de ddwyrain yn eu defnyddio yn adlewyrchu hynny. Mae
gweithwyr cymdeithasol proffesiynol wedi cwyno dro ar ôl tro bod
cyfieithiadau Cymraeg dogfennau'r Cynulliad yn mynd ati i fathu termau
yn ddiangen ac yn anwybyddu eu hiaith broffesiynol naturiol Gymraeg hwy
(mae llawer gwaeth enghreifftiau na 'gofalwr' ar gael) - os gwelwch yn
dda parchwch eirfa'r proffesiwn a'r gofalwyr eu hunain yn yr achos hwn.
Delyth
--
Mae'r e-bost yma'n amodol ar delerau ac amodau ymwadiad e-bost Prifysgol
Cymru Bangor. Gellir darllen testun llawn yr ymwadiad yma:
http://www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer
This email is subject to the terms and conditions of the University of Wales,
Bangor email disclaimer. The full text of the disclaimer can be read here:
http://www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer
|