Hefyd - dw i ddim yn siwr i ba raddau mae pobl yn gallu neu'n barod i
"addasu yn ôl yr angen" wrth ddarllen.
Mae'r sawl sy'n gyfrifol am Beibl.net yn pwysleisio y dylai pobl
addasu'r testun yn ôl yr angen (yn ôl eu tafodiaith) wrth ei
ddarllen yn gyhoeddus ond yn fy mhrofiad i, ychydig iawn sy'n gwneud
hyn ac felly mae'n gallu swnio'n stiff iawn.
Hwyl eto
Siân
On 28 Tach 2006, at 16:02, Muiris Mag Ualghairg wrote:
> Beth am seilio'r ffurfiau ar y llyfryn 'Ffurfiau ysgrifenedig cymraeg
> llafar" a gyhoeddwyd gan CBAC yn 1991.
>
> Mae'n rhoi'r ffurfiau canlynol:
>
> Dw i, W i
>
> Yn bersonol, byddwn i'n ffafrio 'Dw i' - ac rwy'n meddwl bod y ffurf
> honno yn cael ei defnyddio gan 'Golwg' yn eithaf aml.
>
> Muiris
>
> On 28/11/06, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:
>
>> Diolch, Delyth. Gyda llaw, ga i ofyn, wrth ysgrifennu ar gyfer
>> plant/pobl
>> ac anawsterau dysgu yn y De a'r Gogledd gyda'i gilydd, beth yw'r
>> ffordd orau
>> o gyfleu "I am"? Mae Bruce yn dweud bod "Rydw i" yn rhy
>> gogleddol, a byddai
>> "Rwyf i" yn well ar gyfer y ddwy ardal. Wrth feddwl, mae'n reit
>> bosibl y
>> bydd rhywun arall yn darllen y ddofen yn uchel, beth bynnag, ac yn
>> medru
>> addasu pethau fel 'na yn ol yr angen.
>>
>> Gwerthfawrogwn unrhyw gyngor.
>>
>> Ann
>> ----- Original Message -----
>> From: "Delyth Prys" <[log in to unmask]>
>> To: <[log in to unmask]>
>> Sent: Tuesday, November 28, 2006 3:38 PM
>> Subject: Re: carer
>>
>>
>> > Ysgrifennodd Ann Corkett:
>> >
>> >> Sef, rhywun sy'n gofalu am rhywun ifanc ag anwsterau dysgu.
>> Beth sy'n
>> >> arferol, os gwelch yn dda - gofalwr ynteu gofalydd?
>> >> Diolch,
>> >> Ann
>
|