Dwi'n sgrifennu "dw i" a "dwi" yn anffurfiol (ac yn dweud "Fi'n") ond
dw i ddim yn siwr a fyddai'n gweithio mewn sefyllfa sydd hyd yn oed
yn lled ffurfiol - i rywun ei ddarllen yn uchel, hyd yn oed.
Dwi'n meddwl y byddai "W i" yn edrych yn ddryslyd iawn.
Mae gen i ryw deimlad bod "Rydw i" yn cael ei dderbyn yn gyffredinol
mewn defnyddiau addysgol.
Efallai y byddai'n werth holi'r Cyngor Llyfrau.
Hwyl
Siān
On 28 Tach 2006, at 16:02, Muiris Mag Ualghairg wrote:
> Beth am seilio'r ffurfiau ar y llyfryn 'Ffurfiau ysgrifenedig cymraeg
> llafar" a gyhoeddwyd gan CBAC yn 1991.
>
> Mae'n rhoi'r ffurfiau canlynol:
>
> Dw i, W i
>
> Yn bersonol, byddwn i'n ffafrio 'Dw i' - ac rwy'n meddwl bod y ffurf
> honno yn cael ei defnyddio gan 'Golwg' yn eithaf aml.
>
> Muiris
>
> On 28/11/06, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:
>
>> Diolch, Delyth. Gyda llaw, ga i ofyn, wrth ysgrifennu ar gyfer
>> plant/pobl
>> ac anawsterau dysgu yn y De a'r Gogledd gyda'i gilydd, beth yw'r
>> ffordd orau
>> o gyfleu "I am"? Mae Bruce yn dweud bod "Rydw i" yn rhy
>> gogleddol, a byddai
>> "Rwyf i" yn well ar gyfer y ddwy ardal. Wrth feddwl, mae'n reit
>> bosibl y
>> bydd rhywun arall yn darllen y ddofen yn uchel, beth bynnag, ac yn
>> medru
>> addasu pethau fel 'na yn ol yr angen.
>>
>> Gwerthfawrogwn unrhyw gyngor.
>>
>> Ann
>> ----- Original Message -----
>> From: "Delyth Prys" <[log in to unmask]>
>> To: <[log in to unmask]>
>> Sent: Tuesday, November 28, 2006 3:38 PM
>> Subject: Re: carer
>>
>>
>> > Ysgrifennodd Ann Corkett:
>> >
>> >> Sef, rhywun sy'n gofalu am rhywun ifanc ag anwsterau dysgu.
>> Beth sy'n
>> >> arferol, os gwelch yn dda - gofalwr ynteu gofalydd?
>> >> Diolch,
>> >> Ann
>
|