Diolch, Nia a Catrin, am eich sylwadau. Dwi'n tueddu i gytuno efo Catrin. Dwinna hefyd yn gog (o Fethesda - fedrwch chi ddim mynd fawr pellach i'r gogledd na hynny, heblaw am Ynys Môn!) ond dwi ddim yn gweld y byddai UEchyd yn achosi problem - y chwarae ar eiriau sy'n bwysig yn hytrach na'r ynganu yn y cyswllt yma. Mi drafodaf yr opsiynau efo yma i weld a oes barn o ran diwyg ac ati.
Rhian
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Nia Wyn Roberts
Sent: 01 November 2006 14:30
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Health E U - Cylchlythyr
Efallai fod 'UEchyd' yn gwneud synnwyr i Gymry de Cymru, ond i Gymry'r gogledd, cofiwch ein bod yn ynganu 'u' yn wahanol i 'i'. Dwi'n credu y dylid cadw at gyfieithiad llythrennol, sef 'Iechyd yn yr UE', oni bai fod gan rywun deitl bachog amlwg.
Nia
|