Lle mae trawsysgrifiad cydnabyddedig o enw mewn gwyddor arall, gwell cadw at hwnnw ar y cyfan. Tim . . .
A oes gan unrhyw un syniad beth yw'r cyfieithiadau swyddogol ar gyfer yr
ieithoedd canlynol?
Jamaican (Jamaiceg ? Neu Iaith Jamaica?
Kannada (ddim am ddefnyddio Canada gan mai dyna yw enw'r wlad)
Patois (ei adael fel ag y mae?)
Krio (Crio ynteu Krio?)
Hefyd - a ddylid Cymreigeiddio geiriau fel Qatar >>> Catar?
Rydw i o blaid cadw'r sillafiad gwreiddiol, ond beth yw eich barn chi?
Diolch ymlaen llaw
Cathrin
|