Wedi defnyddio a.m. / p.m. ac etc bob tro ers blynyddoedd.
Nia
> ----------
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary[SMTP:[log in to unmask]] on behalf of Mary
> Jones[SMTP:[log in to unmask]]
> Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> Sent: 19 October 2006 23:16
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Etc
>
> Gaf fi ofyn cwestiwn ar gorn y drafodaeth am 'etc', ac yn y blaen. Rwy'n
> gweld anghysondeb mawr yn yr arfer o ddefnyddio 'ayyb', ac 'ayb' (ble
> ddechreuodd y ffansi hwn beth bynnag?) a hefyd 'yb' ac 'yh' am 'am', 'pm'.
> Yn 'ayyb' mae disgwyl i'r 'y' gyntaf fod yn dalfyriad o 'yn', ond yn union
> wedyn mae 'y' yn sefyll am y gair cyfan, sef y fannod! A chyda'r arfer
> 'yb' ac 'yh' mae disgwyl i'r 'y' arwyddo'r fannod 'y' ond yn 'yr hwyr'
> disgwylir iddo fod yn dalfyriad o 'yr'. Yn waeth na hynny, ydy 'hwyr' yn
> cyfleu unrhyw amser ar ôl 12 canol dydd yn y Gymraeg? Gwaeth byth, i'r
> rheiny sy'n mynnu defnyddio 'yp' (am 'y prynhawn' debyg gen i) mae
> 'prynhawn' i arwyddo hyd yn oed tua 11.16 y nos, ydy e? Onid yw'n bryd
> cael cysondeb? Pam yr ysfa am beidio â defnyddio'r talfyriadau Lladin beth
> bynnag? Oes gan rywun sylwadau, os gwelwch chi'n dda?
>
> Mary
>
>
>
>
>
> _____
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of GLENYS ROBERTS
> Sent: 19 October 2006 17:20
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Health and Safety at Work etc. Act 1974
>
>
>
> Ia, mae'n siwr y bydd yr iaith wedi symud ymlaen erbyn y flwyddyn honno
> ...
>
>
>
> ... ond yn y cyfamser, mae 'ac ati' yn swnio baidd yn anffurfiol yn y
> cyd-destun yma.
>
> ----- Original Message -----
>
> From: Geraint Løvgreen <mailto:[log in to unmask]>
>
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
>
> Sent: Thursday, October 19, 2006 4:13 PM
>
> Subject: Re: Health and Safety at Work etc. Act 1974
>
>
>
> Ti'n gallu gweld 200 mlynedd i'r dyfodol rwan, wyt Catrin? ;-)
>
>
>
> faswn i'n ffafrio "ac ati" yn yr enghraifft yma.
>
> ----- Original Message -----
>
> From: Catrin Beard <mailto:[log in to unmask]>
>
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
>
> Sent: Thursday, October 19, 2006 2:54 PM
>
> Subject: Re: Health and Safety at Work etc. Act 1974
>
>
>
> Yn Arddulliadur Gwasanaeth Cyfieithu'r Cynulliad (Gorffennaf
> 2206), mae'r cyfarwyddyd canlynol:
>
>
>
> etc; ac nid 'ayb' nac 'ayyb'. Nid oes angen atalnod chwaith,
> oni bai ei fod ar ddiwedd brawddeg wrth gwrs
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical
> terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On
> Behalf Of Pennawd Cyf.
> Sent: 19 October 2006 10:45
> To: [log in to unmask]
> Subject: Health and Safety at Work etc. Act 1974
>
> Mae'r "etc." yn enw'r ddeddf yn Saesneg, ond yn
> anffodus nid yw'n ymddangos yn yr enw ar TermCymru.
>
>
>
> Mae enghreifftiau o'r enw yn Gymraeg gydag "ac ati"
> a hefyd gydag "etc." A wyr rhywun pa un y dylwn ei ddefnyddio?
>
>
>
> Diolch.
>
> Claire
>
>
******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask]
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] *******************************************************************
|