Mae hanes y peiriant 'cyfieithu' hwn wedi ei gloriannu sawl gwaith ar
welsh-termau-cymraeg, ond dyma grynodeb fel ydw i'n ei deall hi.
Yr hyn ddigwyddodd ar y cychwyn oedd i'r cwmni gysylltu â Nick Kibre.
Mae Nick yn enwog, ers dyddiau cynnar iawn y we, am ei gyrsiau Cymraeg
ar-lein ac am y lecsicon Cymraeg<->Saesneg sy'n gysylltiedig â hwy
(gweler http://www.cs.cf.ac.uk/fun/welsh/LexiconForms.html ). Mae'n
debyg i'r cwmni ofyn iddo am y lecsicon hwnnw.
Yn anffodus i Nick, doedd gan y cwmni ddim arfau iaith Cymraeg ar
wahân i'r lecsicon hwnnw. Doedd dim son am gystrawen, dim son am
synnwyr brawddeg, a dydw i ddim yn meddwl fod y gair 'lemateiddiwr'
hyd yn oed yn ymddangos yn eu geiriadur nhw (newydd drio; na, dyw e
ddim). Felly cyfieithiad slafaidd gair-am-air gafwyd, ac ar ben hynny,
fe gyflwynwyd amryw o wallau wrth fewnforio'r geiriadur i'w systemau:
gweler archif y rhestr hon am fanylion.
Yn fwy anffodus, gan mai hon yw'r unig system gyfieithu
Saesneg<->Cymraeg sydd ar y we hyd ag y gwn i, mae niferoedd wedi
penderfynu ei bod hi'n system ddigon da i gyfieithu arwyddion
swyddogol. *Nid* bai Nick yw hyn o gwbl, na bai'r cwmni chwaith i
raddau. Yr hyn sydd wrth wraidd y broblem hon yw gormodedd ffydd mewn
technoleg, a methiant deall gwir grefft cyfieithu.
Mae'n rhaid i fi gyfadde fod 'na rywbeth i'w ddweud (nid unrhyw beth
da, cofiwch) am system all gyfieithu gwaith aelod nid anenwog o'r
rhestr hon yn: "He ' is being group sun setting crookedly the east
receive this / And he ' is being group insects crookedly plague" . Yr
un system sydd, mae'n debyg, wrth wraidd
http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/5341646.stm ac erchyllterau tebyg.
Nid beio'r dechnoleg ydw i fan hyn (er bod y dechnoleg yn arbennig o
sâl yn yr achos hwn) ond defnydd pobl ohono. Mae angen i rywun addysgu
Cymru (a Phrydain o ran hynny) fod cyfieithu'n beth crefftus, ac os
ydych chi'n defnyddio arfau ar-lein mewn unrhyw iaith, mae angen prawf
ddarllen yr allbwn yn drylwyr gan rywrai sy'n deall eu pethau. Mae hyn
i gyd yn amlwg i ni; fe ddylai hi fod yn amlwg i'r sawl sy'n comisiynu
deunydd cyhoeddus hefyd.
Digon am y tro, rwy'n credu.
Rhys
--
http://cysyllta.blogspot.com/ | http://www.wibsite.com/wiblog/backburner/
|