Os ydych yn siwr mai spring = gwanwyn sy yma, beth am ddefnyddio'r 'crimp'
yn eich dyfyniad - 'crempog grimp y gwanwyn'? Neu 'crempog lysiau
Dsieineaidd' os yw amwysedd diffiniad GA yn eich poeni.
----- Original Message -----
From: "Paul Thomas" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, October 16, 2006 9:57 AM
Subject: Blas ar y Gwanwyn ar fore o Hydref
Ymholiad eithaf anghyffredin i fore dydd Llun, ond a oes gan rywun syniad
am sut i gyfieithu 'spring roll' yn Gymraeg. Yr unig gyfeiriad llwyddais
ddod o hyd iddo at yr amheuthun Tsieineaidd hwn oedd cynnig Geiriadur yr
Academi, sef 'crempog llysiau' ond i mi, gall hynny olygu unrhyw beth -
'vegetable crepe' er enghraifft. Hefyd mae crempog yn rhywbeth meddal fel
arfer, ond fel mae pawb yn gwybod, mae 'spring roll' yn grimp gyda blas ac
ansawdd hollol wahanol. Felly unrhyw awgrymiadau, unrhyw fflachiau o
ysbrydoliaeth ar ddechrau wythnos newydd? Neu ddylwn i dderbyn 'crempog
llysiau' er gwaethaf ei amwysedd?
Diolch ymlaen llaw
Paul
|