Ymholiad eithaf anghyffredin i fore dydd Llun, ond a oes gan rywun syniad
am sut i gyfieithu 'spring roll' yn Gymraeg. Yr unig gyfeiriad llwyddais
ddod o hyd iddo at yr amheuthun Tsieineaidd hwn oedd cynnig Geiriadur yr
Academi, sef 'crempog llysiau' ond i mi, gall hynny olygu unrhyw beth -
'vegetable crepe' er enghraifft. Hefyd mae crempog yn rhywbeth meddal fel
arfer, ond fel mae pawb yn gwybod, mae 'spring roll' yn grimp gyda blas ac
ansawdd hollol wahanol. Felly unrhyw awgrymiadau, unrhyw fflachiau o
ysbrydoliaeth ar ddechrau wythnos newydd? Neu ddylwn i dderbyn 'crempog
llysiau' er gwaethaf ei amwysedd?
Diolch ymlaen llaw
Paul
|