Wi wrthi'n cyfieithu dogfen Cyfiawnder Ieuenctid sy'n ymwneud yn benodol â
Thimâu Troseddu Ieuenctid ac wedi dod o hyd i rai ymadroddion sy'n peri
peth dryswch, sef:
Disposal
Community Disposal
Asset
Start Asset
Nawr, wi'n credu bo fi'n gwybod beth mae 'Disposal' yn golygu, sef bod y
person ifanc wedi cael ei 'brosesu' drwy'r system mewn un ffordd neu'r
llall, boed i wasanaeth cymunedol neu i'r carchar neu ddarpariaeth arall,
a byddwn yn ddiolchgar cael cadarnhad o hynny, ond rhaid cyfaddef bo fi
braidd yn 'stumped' ynghylch 'Asset' a 'Start Asset'. Unrhyw syniadau?
Diolch ymlaen llaw am eich cymorth.
D
|