Cysylltais i a nhw rai blynyddoedd yn ol ac esbonio bod y Gymraeg yn
garbwl - yn ddim mwy na chasgliad o eiriau wedi'u cymysgu a geiriau
Saesneg. Eu hateb oedd eu bod wedi gwella'r peiriant y maent yn ei
werthu ond nid y fersiwn ar y we, gofynnais iddynt wedyn gyfieithu
ambell i frawddeg enghreifftiol imi a chytunon nhw ond ches i byth
mo'r cyfieithiad gorffenedig - siwr o fod roedden nhw'n bwriadu cael
cyfieithydd go iawn i'w cyfieithu ac wedi methu dod o hyd i rywun
fyddai'n fodlon cyfieithu'r ychydig o frawddegau anfonais i atynt.
Dw i wir yn meddwl y dylai'r Gymdeithas gynnwys rhybudd am y cwmni hwn
ar ei gwefan a dylai Bwrdd yr Iaith hefyd gynnwys yr un rhybudd ar ei
wefan. Byddai'n braf pe bai'r Gymdeithas yn gallu rhyddhau datganiad
i'r wasg yn dangos enghreifftiau twp o safon cyfieithu'r cwmni hwn -
byddai modd cyplysu'r datganiad a'r storiau yn y wasg yn ddiweddar.
Gyda llaw - i bawb sy'n sefyll arholiadau'r Gymdeithas yfory POB LWC!!
Muiris a Rhian (ac Eoin, sydd bellach yn wyth mis oed) o'r ynys werdd
ble rydym yn ymweld a pherthnasau.
On 05/10/06, Dafydd Tomos <[log in to unmask]> wrote:
> > Dw i'n meddwl y dylid tynnu'r caniatad yn ol gan esbonio bod y
> > cyfieithiadau mor wael.
>
> Yn sicr mi ddylai Mark ystyried hyn, os yw'n bosib. Mae'r
> cwmni yn gwerthu'r peiriant cyfieithu fel rhan o feddalwedd
> i Windows yn ogystal a'r wefan, ac yn marchnata eu hunain
> fel 'translation experts'. Mae angen cywilyddio'r cwmni
> i dynnu'r eirfa Cymraeg o'i cynnyrch drwy ymgyrch gyhoeddus
> efallai.
>
> Fe wnes i hysbysu nhw am y gwallau rhai blynyddoedd yn ol
> a gofyn mwy nac unwaith iddyn nhw ail-ystyried ei defnydd
> o'r eirfa wallus ond wnaethon nhw ddim hyd yn oed ateb.
>
> Manylion:
>
> Translation Experts Ltd.
> Suite 36, 56 Gloucester Road
> London, England SW7 4UB
> http://www.tranexp.com/
> [log in to unmask]
>
|