Rhaid i bob traddodiad fod yn newydd ryw bryd, sbo. Tim . . .
Rhaid inni anghytuno ar yr un yma mae'n debyg! Ond os ydyn ni i am ddadlau yn erbyn troi Penrhewl yn Road's End, mae'n rhaid ymwrthod â ffugiadau Cymraeg hefyd, am wn i?
Gwleidyddiaeth y peth yw nad ydyn ni'n hoffi meddwl am gyfnod neu ardal yng Nghymru lle nad oedd y Gymraeg yn cael ei siarad - fel De Sir Benfro - ac felly mae'n ddigon naturiol ein bod ni'n hoffi creu ffurfiau sy'n rhoi argraff Gymreiciach. Ond yn y cofnodion hanesyddol mae pobl fel BG Charles wedi'u defnyddio i chwilio am dystiolaeth, dim ond enwau Saesneg oedd i'w gweld ar fannau penodol lle nad oedd y Gymraeg yn cael ei siarad. Fyddech chi ddim yn disgwyl dim byd arall. Ffugio felly yw mynd ati i greu ffurf fel 'Ystagbwll' yn lle cadw at 'Stackpole'.
Mae Cyngor Sir Penfro, fel unrhyw awdurdod arall, yn gallu bod yn anghywir, ac er bod Bedwyr Lewis Jones wedi sôn am hawl y bobl leol i fod yn anghywir, dwy ddim yn credu iddo awgrymu bod rhaid i bawb arall ddilyn anghywirdeb lleol.
Don i ddim wedi meddwl am enwau hŷn fel Wrecsam a'r Drenewydd, ac mae'r rhain yn dipyn o ben tost.... ond eto i gyd dyw enghraifft Wrecsam ddim yn berthnasol yma. Nid sôn am newid orgraff ydyn ni (Stackpole > Stacpôl), felly mae hynny'n gadael enghreifftiau fel y Drenewydd.
Beth yw oedran y Drenewydd tybed - canoloesol on'd yw hi?
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Løvgreen
Anfonwyd/Sent: 31 October 2006 13:09
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ATB: Trewent Point
Sori, ond mae hynny'n lol. Be sydd a wnelo dyheadau gwleidyddol a'r peth??
Pa ffugio hanes??
Mae Cyngor Sir Benfro'n defnyddio "Ystagbwll" - dwi'n meddwl y buaswn i'n
derbyn gair yr awdurdod lleol.
Neu wyt ti eisiau cadw ffurfiau gwreiddiol Wrexham a Newtown hefyd?
----- Original Message -----
From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, October 31, 2006 12:33 PM
Subject: ATB: ATB: Trewent Point
Wel, os ydyn ni am ffugio hanes pan fydd hynny'n ateb ein dyheadau
gwleiyddol ni, mae'n well i ni fod yn barod gyda dadleuon da i atal pobl
sydd â dyheadau gwleidyddol gwahanol pan fyddan nhw'n dechrau defnyddio
Fortinarvon a Saltypool a Madoxport.
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint
Løvgreen
Anfonwyd/Sent: 31 October 2006 11:43
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ATB: Trewent Point
Mae dros 100 o enghreifftiau o "Ystagbwll" (nid "Ystangbwll") ar Google.
Pam bod honno felly yn 'ffurf ffug' yn fwy natg unrhyw Gymreigiad arall o
enwau Saesneg?
Geraint
----- Original Message -----
From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, October 31, 2006 10:17 AM
Subject: ATB: ATB: Trewent Point
> Mae'n drueni bod yna un gorchymyn gan y Cynulliad yn defnyddio'r ffurf
> ffug.
>
>
> Serch hynny, gall dyn faddau un llithriad bach, mae'n debyg, ond fydd 'na
> ddim maddeuant am gamsillafu enw Merthyr Tudful yn yr un gorchymyn, fel
> Merthyr Tydfil.
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Tim
> Saunders
> Anfonwyd/Sent: 30 October 2006 21:09
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: ATB: Trewent Point
>
> Mae e ar gael yn neddfwriaeth y Cynulliad. Tim . . .
>
>
> Mae'n debyg gen i mai yn fwriadol y dywedodd Bruce 'Stackpole' ac nid
> 'Ystangbwll'.
>
> Dim ond 'Stackpole' sydd wedi'i gofnodi gan gan BG Charles, ac mae'r
> diffyg
> cofnodion hanesyddol yn awgrymu felly mai ffurf ffug yw'r llall, sydd
> wedi'i
> chreu yn gymharol ddiweddar.
>
> Oes yna wybodaeth am ble a pha bryd y daeth 'Ystangbwll' i olau dydd?
>
>
>
>
>
>
>
> _____
>
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Huw Garan
> Anfonwyd/Sent: 30 October 2006 19:24
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Trewent Point
>
>
>
> Diolch i Bruce a Berwyn. Dylwn fod wedi nodi mai Trewent Point ger
> Ystangbwll oedd dan sylw, mae'n ddrwg gen i am hynny. Defnyddiais Trywn
> Trewent.
>
>
>
> Diolch
>
>
>
> Hg
>
>
>
>
|