Dylai'r gwalch ddarllen codau ymddygiad cyfieithwyr. Tim . . .
Newydd gael galwad gan ryw Hywel Trewyn, o'r Daily Post, yn holi a oedden ni wedi cael y gwaith o gyfieithu rhyw ddogfen arbennig. 'Doeddwn i ddim yn deall beth oedd ganddo i ddechrau, ond yr hyn yr oedd eisiau arno oedd cael cip ar y ddogfen. Dyma'r tro cyntaf imi ymwneud a "newyddiaduriaeth ymchwiliol"!
Byddwn i'n meddwl y dylai unrhyw gyfieithydd fod yn ofalus iawn iawn ynghylch y dyn 'ma, oni theimla reidrwydd moesol i ddatgelu rhywbeth (chwythu'r chwiban?). I ddweud y gwir, 'roeddwn i'n synnu y byddai'n disgwyl i unrhyw un dorri cyfrinachedd, a pheryglu ei enw da, mewn modd mor wynebgaled.
Ann
|