Dw i'n meddwl y dylid tynnu'r caniatad yn ol gan esbonio bod y
cyfieithiadau mor wael.
Muiris
On 05/10/06, Rhys Jones <[log in to unmask]> wrote:
> Helo,
>
> Mae Mark Nodine, sydd am rhyw reswm yn methu postio i
> welsh-termau-cymraeg, wedi gofyn i fi yrru'r neges isod ymlaen ar ei
> ran.
>
> Hwyl
> Rhys
>
> ---------- Forwarded message ----------
> From: Mark Nodine <[log in to unmask]>
> Date: 05-Oct-2006 16:07
> Subject: Re: Peiriant cyfieithu
> To: [log in to unmask]
>
>
> Rhys,
>
> Does gen i ganiata^d i bostio i WELSH-TERMAU-CYMRAEG ar hyn
> o bryd, ond mae gen i ychydig i'w ddweud i ymateb i'ch neges.
>
> Diolch am yr eglurhad mewn neges ddiweddarach mod i, nid
> Nick Kibre, sy'n gyfrifol am y lecsicon dan sylw.
>
> --Mark
>
> Rhys Jones wrote:
> > Mae hanes y peiriant 'cyfieithu' hwn wedi ei gloriannu sawl gwaith ar
> > welsh-termau-cymraeg, ond dyma grynodeb fel ydw i'n ei deall hi.
> >
> > Yr hyn ddigwyddodd ar y cychwyn oedd i'r cwmni gysylltu â Nick Kibre.
> > Mae Nick yn enwog, ers dyddiau cynnar iawn y we, am ei gyrsiau Cymraeg
> > ar-lein ac am y lecsicon Cymraeg<->Saesneg sy'n gysylltiedig â hwy
> > (gweler http://www.cs.cf.ac.uk/fun/welsh/LexiconForms.html ). Mae'n
> > debyg i'r cwmni ofyn iddo am y lecsicon hwnnw.
> >
> > Yn anffodus i Nick, doedd gan y cwmni ddim arfau iaith Cymraeg ar
> > wahân i'r lecsicon hwnnw. Doedd dim son am gystrawen, dim son am
> > synnwyr brawddeg, a dydw i ddim yn meddwl fod y gair 'lemateiddiwr'
> > hyd yn oed yn ymddangos yn eu geiriadur nhw (newydd drio; na, dyw e
> > ddim). Felly cyfieithiad slafaidd gair-am-air gafwyd, ac ar ben hynny,
> > fe gyflwynwyd amryw o wallau wrth fewnforio'r geiriadur i'w systemau:
> > gweler archif y rhestr hon am fanylion.
>
> A dweud y gwir, roeddwn i'n ddrwgdybus iawn ar y pryd
> am brospectau o gael cyfieithiad rhesymol drwy defnyddio
> lecsicon yn unig, heb ddefnyddio'r cystrawen i'w arwain,
> ond mae'r person wedi fy nghalonogi eu bod nhw wedi gwneud
> yr un peth efo ieithoedd eraill. Ar y pryd, doedd dim so^n
> y byddai'r peiriant cyfieithu ar gael ar y We, ac mi synnais
> i'n ddirfawr pan gefais i wybod yr oedd safwe i'w ddefnyddio.
>
> Doedd y peiriant ddim yn gallu defnyddio fy lecsicon fel
> yr oedd; roedd rhaid imi ei drawsffurfio i syntax arall
> efo pob ffurf bosib, gan gynwys treigladau a ffurfiau
> rhedeg y berfau. Mae'n amlwg fod y peiriant yn cyflwyno
> diffiniad cyntaf y llinell gyntaf sy'n ymwneud a^'r gair.
> Yn yr enghraifft blaenorol "gwneud fy ngorau glas", yr oedd
>
> glas/n./monastic community, cloister, college, close
> glas/adj./blue, green grey (gray), pale
>
> lle mae'r llinell gyntaf yn cynrychioli'r treiglad meddal o
> "clas". (Duw a wy^r o ble ddaeth "rustle" -- efallai
> fod camgymeriad yn y meddalwedd ei hun.) Roedd y
> lecsicon estynedig yn ddirfarw, rhyw 80M os ydi i'n
> cofio'n iawn.
>
> Ydy eich barn y dylwn i gysylltu a perchen y wefan i'w
> rwystro rhag gwneud y wefan ar gael pellach?
>
> --Mark
>
|