O ailfeddwl, efallai byddai modd i rywun (Bwrdd yr Iaith eto) wneud rhywbeth
trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Yn y cyfamser 'rwyf wedi rhoi
gwybod i gyfieithwyr Wrecsam ac yn aros am alwad yn ol gan Adran
Gwasanaethau Eiddo'r Cyngor.
'Rwyf wedi anfon cymaint o negeseuon y bore 'ma fel y bydd pawb yn meddwl
nad oes gen i ddim byd i'w wneud - y gwir yw bod gen i rywbeth nad oes arna
i eisiau ei wneud, a 'dw i'n chwilio am bob esgus i'w osgoi. Wel imi droi
ato!
Ann
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, September 12, 2006 12:53 PM
Subject: Re: Erthygl ddiddorol
> Diolch, Sian. Es i i'r safle, ac o hynny i "Scymraeg" a'i lluniau
> torcalonnus. Ar wahan i'r peiriant cyfieithu, onid dylunwyr di-Gymraeg
> sy'n gyfrifol am lawer o'r erchyllderau hyn, a hynny'n pwysleisio'r angen
> i ystyried eu hanghenion a mynnu cyd-weithio'n agos a nhw.
>
>>a oes gan ryw gorff awdurdod i gysylltu
> Wn i ddim am "awdurdod", ond onid yw hyn yn dasg i Fwrdd yr Iaith - a oes
> 'na rywun yn darllen hyn sy'n medru awgrymu hynny?
>
> Ann
> ----- Original Message -----
> From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, September 12, 2006 11:53 AM
> Subject: Re: Erthygl ddiddorol
>
>
> Mae'r peiriant cyfieithu wedi bod wrthi eto:
>
> Arwydd mawr y tu allan i ysgol yn Wrecsam:
>
> Pupil and Staff Entrance = Ddisgybl a Baladr daflu i Berlewyg
>
> Visitors please use Sontley Road Entrance = Hymwelwyr Blesio Arfer Sontley
> Cerrynt daflu i Berlewyg
>
> Llun i'w weld yma: http://www.flickr.com/photos/benbore/240597433/
>
> O ddifri - a oes gan ryw gorff awdurdod i gysylltu ag awdurododau lleol ac
> ati i'w rhybuddio rhag
> defnyddio peiriannau cyfieithu?
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.3/445 - Release Date: 11/09/2006
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.3/445 - Release Date: 11/09/2006
>
>
|