Diolch, Sian. Es i i'r safle, ac o hynny i "Scymraeg" a'i lluniau
torcalonnus. Ar wahan i'r peiriant cyfieithu, onid dylunwyr di-Gymraeg sy'n
gyfrifol am lawer o'r erchyllderau hyn, a hynny'n pwysleisio'r angen i
ystyried eu hanghenion a mynnu cyd-weithio'n agos a nhw.
>a oes gan ryw gorff awdurdod i gysylltu
Wn i ddim am "awdurdod", ond onid yw hyn yn dasg i Fwrdd yr Iaith - a oes
'na rywun yn darllen hyn sy'n medru awgrymu hynny?
Ann
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, September 12, 2006 11:53 AM
Subject: Re: Erthygl ddiddorol
Mae'r peiriant cyfieithu wedi bod wrthi eto:
Arwydd mawr y tu allan i ysgol yn Wrecsam:
Pupil and Staff Entrance = Ddisgybl a Baladr daflu i Berlewyg
Visitors please use Sontley Road Entrance = Hymwelwyr Blesio Arfer Sontley
Cerrynt daflu i Berlewyg
Llun i'w weld yma: http://www.flickr.com/photos/benbore/240597433/
O ddifri - a oes gan ryw gorff awdurdod i gysylltu ag awdurododau lleol ac
ati i'w rhybuddio rhag
defnyddio peiriannau cyfieithu?
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.3/445 - Release Date: 11/09/2006
|