Reit, gyfeillion hynaws, dyma her ddeallusol o'r iawn ryw yn hwyr ar
brynhawn Mawrth. Mae gofyn i mi ganfod cyfieithiadau ar gyfer y canlynol:
cracker snaps
novelty matches
party poppers
serpents
throw-downs
Mae 'caps' ar y rhestr hefyd, ond mae GyrA yn rhoi 'caps' am y rheiny!
Parthed y gweddill, a fydd yn rhaid i mi roi'r ffidil yn y to a defnyddio'r
ymadroddion Saesneg mewn dyfynodau, ynteu a all hyn o neges ennyn ton o
greadigrwydd llachar (onid ffrwydrol) o'ch plith?
Mewn disgwylgarwch eiddgar,
Hwyl,
Wyn
|