Mae 'they' fel rhagenw 3ydd person niwtral yn mynd yn ol i Oes y Tuduriaid. - Tim
Mae'n well gen i hynny, am wn i, na'r arfer diweddar o roi 'their' bob tro mewn ymadroddion fel hyn. Ai dim ond fi sy'n casáu brawddegau fel rhai BT - 'the caller withheld their number'? Mi fydda i'n teimlo fel gweiddi lawr y ffôn, 'How can the caller withold their number?' Pwysau o blaid bod yn PC wedi mynd yn rhemp!
O diar, mae'r plant yn deud 'mod i'n mynd yn fwy stropi yn fy henaint!
Hwyl!
Glenys
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, September 08, 2006 10:28 AM
Subject: Re: Pa ryw?
Sorri, "i'w amgylchiadau"!
Ann
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, September 08, 2006 10:21 AM
Subject: Pa ryw?
Yn sgil y sylwadau yn "Sawl Un?", mae'n werth dweud ei bod hi'n hawdd iawn
llithro ynghylch rhyw ('sex' nid 'some') unigolyn hefyd, wrth gyfieithu o'r
Gymraeg.
Yn ddiweddar, cyfieithiais i adroddiad (dychmygol) ynghylch damwain mewn
cartref hen bobl. "Atik" oedd enw'r gofalydd, a chymerais mai gwraig
ydoedd, nes i un o'r cwestiynau ar y diwedd ddangos mai dyn oedd.
Sylwais yn ddiweddar bod sylw Kate Roberts ar "Te yn y Grug" wedi'i
gyfieithu fel hyn,""able to enter the dark recesses of a child's mind and
show a child's reaction to his circumstances". Yr oedd y cyfieithiad ei hun
yn ddi-fai, ond mae'n amlwg bod rhywun wedi gweld rhywbeth fel "ymateb
plentyn i ei amgylchiadau" heb gofio/wybod bod y plentyn yn y novel yn
ferch.
Ann
----- Original Message -----
From: "SIAN ROBERTS" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, September 08, 2006 9:54 AM
Subject: Re: Sawl un?
Bu bron i mi wneud yr un camgymeriad o chwith -
cyfieithu rhywbeth fel "Sailing Ship Festival" a dweud
"Gwyl Llongau Hwyliau" tan i mi sylwi reit ar y diwedd
mai dim ond un llong hwyliau oedd yno.
Bai'r Saesneg!
Hwyl
Sian
--- GLENYS ROBERTS <[log in to unmask]> wrote:
> I ddilyn pwynt a gododd Ann ar gychwyn y drafodaeth
> am ffermio pysgod, ro'n 'adra' yn Llangefni dros
> w^yl y banc, ac roedd 'na arwyddion ar yr A55 yn
> cyfeirio pobl at 'Sioe Beic Ynys Môn', sef 'Anglesey
> Bike Show' mae'n debyg. Ro'n i'n teimlo fel mynd
> allan ac ychwanegu 'Be', 'mond un beic?' at yr
> arwydd!
> Glenys
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.2/441 - Release Date: 07/09/2006
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.2/441 - Release Date: 07/09/2006
|