Rwy'n gweld y gwahaniaeth, ond o safbwynt siaradwr difeddwl, os yw pethau
fel:
Cymru > maen nhw'n dda,
pwyllgor > maen nhw'n hwyr eto
cyngor > maen nhw'n gwastraffu arian
Cynulliad > maen nhw'n jôc
yn digwydd, yna pam na ddylai pethau fel
galwr > maen nhw wedi gwrthod gadael eu rhif
fod yn bosib hefyd?
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint
Løvgreen
Anfonwyd/Sent: 08 September 2006 14:29
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Pa ryw?
Ie, ond dydi'r enghraifft Cymru ddim yn dal dwr achos nid Cymru y wlad sydd
dan sylw ond yr unarddeg chwaraewr oedd ar y cae dros y wlad!
Roedd yna arferiad Saesneg o geisio dweud "Liverpool has won the
championship" ond erbyn hyn mae pawb yn derbyn mai "Liverpool have won..."
sy'n fwy naturiol.
----- Original Message -----
From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, September 08, 2006 1:59 PM
Subject: Re: Pa ryw?
Mae ymadroddion "rhyw-benodol" yn un o'r seiliau sydd gan Bwyllgor Deddfau
y Cynulliad dros wrthod drafft o is-ddeddfwriaeth, ond mae'r Pwyllgor yn
caniatáu i'r Gymraeg lynu at ddilyn cenedl yr enw, felly hyd yn oed os
yw’r Saesneg yn dweud ‘if a parent sends his or her child’, fe fydd ir is-
ddeddfwriaeth Gymraeg yn dweud 'os bydd rhiant yn anfon ei blentyn'.
Ond dwy ddim yn credu chwaith bod defnyddio "eu" ar ôl enw unigol yn
anghyffredin, nac yn deillio o ymyrraeth y Saesneg bob tro....
Welsoch chi gêm Cymru a'r Weriniaeth Siec pa ddydd. Gwnaeth Cymru'n dda.
Roedd hi'n haeddu pwynt yn fy marn i.
Na, na, na. "Roedden nhw'n haeddu pwynt" sy'n naturiol fan 'na.
Mae pawb yn deall hynny, ond ydyn nhw (sic)?
|