Mae gennyf frith gof o'i glywed yn y 70au gan Elen?/Elin? Rhys a oedd yn
ceisio fy nharbwyllo y dylwn ei gynnwys yng Ngeiriadur yr Academi. Ni
synnwn o gwbl pe bai'n fathiad o eiddo'r athrylith hwnnw Dewi Pws!
Bruce
----- Original Message -----
From: "Dewi Bowen Williams" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, September 07, 2006 2:45 PM
Subject: Re: ffrwchnedd
Annwyl Delyth,
Yn ôl yr hyn a glywais peth amser yn ôl - bathiad yn ystod Eisteddfod
Genedlaethol yng Nghastell Nedd ryw dro oedd "ffrwchnedd" ac o ffrwyth +
Nedd .
Ond well holi Dewi Pws ei hun.
Dewi.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Delyth Prys
Sent: 07 September 2006 13:03
To: [log in to unmask]
Subject: ffrwchnedd
Cefais ymholiad yn ddiweddar am y gair "ffrwchnedd" (sef y gair Cymraeg am
fanana yn ôl rhai).
Roeddwn i wastad wedi cymryd mai un o eiriau gwneud William Owen Pughe oedd
e, ond roeddwn i'n anghywir, a does dim tystiolaeth ohono mewn testunau
Cymraeg tan yn lled ddiweddar. Mae rhai yn dweud mai Dewi Pws fathodd y
gair, ond dydw i ddim wedi cael cadarnhad o hyn ychwaith. Mae ychydig
enghreifftiau ar y we (rhai tynnu coes gan mwyaf, diolch byth).
Holais ein cyfeillion ar staff Geiriadur Prifysgo Cymru, ond doedd dim
cofnod o'r gair ar un o'u slipiau nhw ychwaith. "Beth am holi ar TERMAU"
oedd yr awgrym ysbrydoledig yno, felly dyma fi'n gwneud.
Oes unrhyw un ohonoch yn gwybod hanes y gair hwn, neu pryd a ble y gwelsoch
chi'r gair gyntaf? Oes gwir yn y si mai Dewi Pws fathodd y gair fel joc yn y
man cyntaf?
Diolch am bob help,
Delyth
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys
deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y
cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon
trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilwch y neges. Os
na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio defnyddio, cadw
neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu
safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn
cynrychioli barn Prifysgol Cymru, Bangor. Nid yw Prifysgol Cymru, Bangor yn
gwarantu bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau
neu 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid
Prifysgol Cymru, Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and is
solely for the use of the intended recipient(s). If you have received this
email in error, please notify the sender immediately and delete this email.
If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain or
disclose any information contained in this email. Any views or opinions are
solely those of the sender and do not necessarily represent those of the
University of Wales, Bangor.
The University of Wales, Bangor does not guarantee that this email or any
attachments are free from viruses or 100% secure. Unless expressly stated
in the body of the text of the email, this email is not intended to form a
binding contract - a list of authorised signatories is available from the
University of Wales, Bangor Finance Office. www.bangor.ac.uk
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.1/440 - Release Date: 06/09/2006
|