Gofynnodd Mark Nodine i mi anfon y neges isod ymlaen
ar ei ran gan nad yw'n gallu cysylltu a^'r rhestr ar
hyn o bryd.
Cyfeillion,
Mae gen i deimlad sa+l taw fi, neu fy ngeiriadur o
leiaf, sy'n gyfrifol am yr erchyllterau rhain. O'r
geiriadur:
arfer [arfer-; 3.s. & 2.s.imp. arfer] - (v.) use,
accustom, habituate, ply, inure
cerrynt [mf.] - (n.) course, road, current { (road)
**Cerrynt** is an unlikely translation of "road", but
"road" might be a good translation of some poetic use
of "cerrynt". It is the same word as the English
(water, or electrical) "current". }
taflu i berlewyg - (v.) entrance
paladr [peleidr, pelydr, m.; dimin.f. -en,
pladren, pledren; dimin.m. -ig, -yn, pledryn;
dimin.pl. -ynnau, pledrynnau] - (n.) ray, beam, shaft,
shank; staff; stem, stalk
{ (staff) **Paladr** is the kind of staff you can
wield as a weapon. }
plesio [plesi-] - (v.) please
Wn i ddim a yw person sy'n methu sylweddoli taw "v."
yn golygu berf, neu peiriant sy'n methu gwahaniaethu
rhwng berfau ac enwau.
Mi fyddwn i'n disgwyl y gall person ddarllen y
nodiadau o leiaf.
--Mark
--- Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:
> O ailfeddwl, efallai byddai modd i rywun (Bwrdd yr
> Iaith eto) wneud rhywbeth
> trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Yn y
> cyfamser 'rwyf wedi rhoi
> gwybod i gyfieithwyr Wrecsam ac yn aros am alwad yn
> ol gan Adran
> Gwasanaethau Eiddo'r Cyngor.
>
> 'Rwyf wedi anfon cymaint o negeseuon y bore 'ma fel
> y bydd pawb yn meddwl
> nad oes gen i ddim byd i'w wneud - y gwir yw bod gen
> i rywbeth nad oes arna
> i eisiau ei wneud, a 'dw i'n chwilio am bob esgus
> i'w osgoi. Wel imi droi
> ato!
>
> Ann
>
> ----- Original Message -----
> From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, September 12, 2006 12:53 PM
> Subject: Re: Erthygl ddiddorol
>
>
> > Diolch, Sian. Es i i'r safle, ac o hynny i
> "Scymraeg" a'i lluniau
> > torcalonnus. Ar wahan i'r peiriant cyfieithu,
> onid dylunwyr di-Gymraeg
> > sy'n gyfrifol am lawer o'r erchyllderau hyn, a
> hynny'n pwysleisio'r angen
> > i ystyried eu hanghenion a mynnu cyd-weithio'n
> agos a nhw.
> >
> >>a oes gan ryw gorff awdurdod i gysylltu
> > Wn i ddim am "awdurdod", ond onid yw hyn yn dasg
> i Fwrdd yr Iaith - a oes
> > 'na rywun yn darllen hyn sy'n medru awgrymu hynny?
> >
> > Ann
> > ----- Original Message -----
> > From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Tuesday, September 12, 2006 11:53 AM
> > Subject: Re: Erthygl ddiddorol
> >
> >
> > Mae'r peiriant cyfieithu wedi bod wrthi eto:
> >
> > Arwydd mawr y tu allan i ysgol yn Wrecsam:
> >
> > Pupil and Staff Entrance = Ddisgybl a Baladr daflu
> i Berlewyg
> >
> > Visitors please use Sontley Road Entrance =
> Hymwelwyr Blesio Arfer Sontley
> > Cerrynt daflu i Berlewyg
> >
> > Llun i'w weld yma:
> http://www.flickr.com/photos/benbore/240597433/
> >
> > O ddifri - a oes gan ryw gorff awdurdod i gysylltu
> ag awdurododau lleol ac
> > ati i'w rhybuddio rhag
> > defnyddio peiriannau cyfieithu?
> >
> >
> > --
> > No virus found in this incoming message.
> > Checked by AVG Free Edition.
> > Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.3/445 -
> Release Date: 11/09/2006
> >
> >
> > --
> > No virus found in this incoming message.
> > Checked by AVG Free Edition.
> > Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.3/445 -
> Release Date: 11/09/2006
> >
> >
>
|