** Message from Carolyn Carter, CJC Consultancy - This is a bilingual
message, the English text can be found towards the end of the message. **
** Neges oddi wrth Carolyn Carter, Ymgynghoriaeth CJC - Neges ddwyiethiog
yw hon, a gwelwch y testun Saesneg ar diwedd y neges. **
MESUR AMRYWIAETH
Mae Mesur Amrywiaeth yn brosiect ymchwil a gomisiynwyd gan CyMAL:
Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru. Ei nod yw canfod beth yw’r
sefyllfa bresennol o ran amrywiaeth yn y sector AALl yng Nghymru, a hynny
er mwyn sefydlu’r data gwaelodlin y gellir sylfaenu polisïau a
blaenoriaethau CyMAL arnynt, a gosod man cychwyn y gellir mesur
datblygiadau’r dyfodol ohono. Bydd yn galluogi CyMAL i ddarparu cefnogaeth
briodol ar gyfer y sector.
Erbyn Hydref 16eg bydd pob amgueddfa, archifdy a llyfrgell yng Nghymru wedi
derbyn holiadur, naill ai trwy e-bost neu ar ffurf copi caled, er mwyn
casglu data ynglŷn â grwpiau a ddiffinir yn ôl oedran, anabledd, rhyw,
ethnigrwydd, crefydd/cred, cyfeiriadedd rhywiol a’r iaith Gymraeg.
Archwilir y meysydd hyn yn ôl y 5 adran ganlynol:
Y Sefydliad
Staff
Casgliadau
Gwasanaethau a digwyddiadau i ymwelwyr/ddefnyddwyr
Trefn monitro ymwelwyr/defnyddwyr a’r rhai nad ydynt yn ymweld
Sylwer na chynhwysir cwestiynau am grefydd/cred na cyfeiriadedd rhywiol yn
yr adran am Staff na’r adran am fonitro defnyddwyr. Gofynnir i’r
sefydliadau ddychwelyd yr holiadur, wedi ei gwblhau, erbyn Tachwedd 15fed.
Cyflwynir yr adroddiad terfynol i CyMAL erbyn Chwefror 27ain 2007, a
chyflwynir canfyddiadau’r ymchwil hefyd mewn digwyddiad lansio yn ystod haf
2007.
Arolwg gwaelodlin yw hwn, ac mae pob ymateb mor ddilys a defnyddiol â’i
gilydd: er enghraifft, gall ymateb negyddol neu nodi ‘dim yn gwybod’ helpu
CyMAL i ganfod y meysydd lle mae angen datblygu a chefnogi. Gofynnwn i chi
sylwi wrth lenwi’r holiadur na wneir unrhyw werthfarn ac ni fydd yr un
unigolyn na sefydliad yn cael ei enwi yn yr adroddiad, er y gall
enghreifftiau o arfer da ynghyd ag enwau ymddangos yn yr atodiadau.
Gobeithio felly y bydd pob sefydliad ym meysydd AALl yn cwblhau’r
holiadur. Hoffwn ddiolch ymlaen llaw i chi os mai chi fydd yn cael y
gwaith o’i gwblhau ar ran eich sefydliad!
Cysylltwch â mi os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch neu os byddwch am
wneud unrhyw sylwadau.
Cofion,
Carolyn
Carolyn Carter
Ymgynghoriaeth CJC
E-bost: [log in to unmask]
----------
QUANTIFYING DIVERSITY
Quantifying Diversity is a research project which has been commissioned by
CyMAL: Museums Archives and Libraries Wales. Its purpose is to identify
the current position with regard to diversity in the MAL sector in Wales,
to provide baseline data to inform CyMAL’s policies and priorities and to
offer a starting point from which future developments can be measured. It
will enable CyMAL to provide appropriate support to the sector.
By October 16th every museum, archive and library in Wales will receive a
questionnaire, either via email or in printed form, aimed at capturing data
relating to groups defined by age, disability, gender, ethnicity,
religion/belief, sexual orientation and Welsh language. These areas will
be explored within 5 sections:
The Organisation
Staff (both employees and volunteers)
Collections
Visitor/user services and events
Visitor/user and non-visitor monitoring procedures
Please note that questions concerning religion/belief and sexual
orientation are not included in the Staff or user monitoring sections.
Organisations will be requested to return completed questionnaires by
November 15th and the final report will be delivered to CyMAL by February
27th 2007. The research findings will also be presented at a launch event
in summer 2007.
This is a baseline survey, and all responses are equally valid and helpful
to us: for example, negative or ‘don’t know’ responses can help CyMAL to
identify areas for development and support. We ask you to complete the
questionnaire in the knowledge that no value judgements will be made and no
individual or organisation will be identified within the report, although
attributed examples of good practice may appear in the appendices.
Consequently, we hope very much that every MAL will complete the
questionnaire and I would like to thank you in advance, should you be
called upon to help complete it for your organisation!
For further information or any comments, please contact me.
Carolyn Carter
CJC Consultancy
Email: [log in to unmask]
|