8 Medi 2006
Annwyl Gyfaill
Cyfarfod cadwraeth yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, 2
Hydref 2006
Rwy'n ysgrifennu atoch i'ch gwahodd i gyfarfod yn Llyfrgell Genedlaethol
Cymru, Aberystwyth, ddydd Llun 2 Hydref. Mae manylion pellach yn y daflen
amgauedig. Mae sefyllfa cadwraeth yng Nghymru wedi newid yn ddiweddar gyda
dyfodiad CyMAL ac ICON, y corff proffesiynol newydd ar gyfer cadwraethwyr.
Trefnir cyfarfodydd cadwraeth fel Conservation Matters in Wales gan
sefydliadau yn y sector amgueddfaol megis yr Amgueddfa Genedlaethol a
Federasiwn Amgueddfeydd yng Nghymru. O 1995-2004 trefnwyd cyfarfodydd
hyfforddi ar gyfer sector y llyfrgelloedd a'r archifau gan Grwp Cadwraeth
Rhanbarth Cymru Cymdeithas yr Archifyddion a Grwp Cadwraeth LISC(C). Daeth
Grwp LISC(C) i ben yn 2004 ac mae swyddogaeth CILIP a Chymdeithas yr
Archifyddion mewn hybu cadwraeth wedi bod dan ystyriaeth ers sefydlu ICON.
Mae'r cyfarfod yn y Llyfrgell Genedlaethol yn rhannol yn gyfarfod hyfforddi
ar gyfer pobl sy'n ymwneud a gofal casgliadau, ac yn rhannol yn gyfle, yn y
prynhawn, i weithwyr cadwraeth cyfrolau a phapur, ac eraill, i drafod y
ffordd ymlaen ar gyfer y math yma o hyfforddiant cadwraeth yng Nghymru.
Mae'n bosib y bydd rhai a fu'n cefnogi'r cyfarfodydd a drefnwyd gan
Gymdeithas yr Archifyddion a LISC(C) yn croesawu cyfleoedd datblygu pellach.
Gall y cyfarfod hefyd drafod ffyrdd eraill o gydweithio nawr bod ICON a
CyMAL ar gael.
Os ydych yn teimlo bod hyn yn berthnasol i chi gobeitho bydd modd i chi a'ch
cydweithwyr ddod i'r cyfarfod hwn. Os ydych yn bwriadu dod byddwn yn
ddiolchgar pe bai modd i chi roi gwybod i mi drwy e-bost erbyn 25 Medi 2006.
Yn gywir
Iwan Jones
[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>
Pennaeth Gofal Casgliadau
Cadwraeth Llyfrgell ac Archif yng Nghymru
Cyfarfod Agored yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, 2 Hydref 2006
Rhagymadrodd
Pwrpas y cyfarfod yw tynnu ynghyd pobl sy'n ymwneud a chadwraeth a
chadwedigaeth mewn llyfrgelloedd ac archifdai yng Nghymru er mwyn ystyried
sut i hybu cadwraeth yn y dyfodol. Bydd sesiwn y bore yn cynnwys
cyflwyniadau gan staff y Llyfrgell Genedlaethol, a bydd sesiwn y prynhawn yn
canolbwyntio ar gyfleodd ar gyfer cadwraeth yn y dyfodol drwy gyrff megis
ICON, Cymdeithas yr Archifyddion a CILIP, gyda chefnogaeth CyMAL o bosib.
Sesiwn y bore - hyfforddi
10.30 Coffi ar gael ym Mwyty Pendidnas
11.00 Croeso a rhagymadrodd
11.05 Julian Thomas,
Making a facsimile mediaeval manuscript
11.40 John Reed
An introduction to film conservation
12.15 Iwan Jones
Surveying microfilm for acetate
12.50 Cinio
Sesiwn y prynhawn - hyfforddi a datblygu
14.00 Liz Bowerman
Supporting conservation in Wales
14.30 Denise Lavis (hwyluswr)
Discussion on working together for conservation in
Wales
> Liz Bowerman
> Cynghorydd Casgliadau/Collections Adviser
> CyMAL
> Uned 10, Parc Gwyddoniaeth / Unit, 10 Science Park
> ABERYSTWYTH
> SY23 3AH
>
> Ffôn/Tel: 01970 610226
>
> Dylai'r datganiadau neu'r sylwadau uchod gael eu trin fel rhai personol ac
> nid o reidrwydd fel datganiadau neu sylwadau gan Gynulliad Cenedlaethol
> Cymru, unrhyw ran ohono neu unrhyw gorff sy'n gysylltiedig ag ef.
> Any of the statements or comments made above should be regarded as
> personal and not necessarily those of the National Assembly for Wales, any
> constituent part or connected body.
>
The original of this email was scanned for viruses by the Government Secure Intranet (GSi) virus scanning service supplied exclusively by Energis in partnership with MessageLabs.
On leaving the GSi this email was certified virus-free.
Mae fersiwn wreiddiol y neges e-bost hon wedi'i sganio am feirysau gan wasanaeth sganio feirysau Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSi) a ddarperir yn arbennig gan Energis mewn partneriaeth â MessageLabs.
Wrth i'r neges e-bost hon adael GSi, ardystiwyd nad oedd firws ynddi.
|