Dwi'n ei chael hi'n amhosib peidio rhoi bwlch dwbwl! Mae'n gwbl reddfol.
Fe ges i gyfarwyddiadau gan ddylunydd yn ddiweddar i wneud yn siwr bod 2
fwlch - od iawn! Ond roedd ei gyfarwyddiadau i gyd fel rhyw fath o Sudoku
heb rifau!!
Catrin
(sydd enwydd ddarganfod Kakuro!!)
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, August 18, 2006 12:28 PM
Subject: Re: Dangos eich oed
>> Pa mor ifanc yw ifanc? Dysgais deipio yn yr ysgol gynradd yn y 70au
>> ac mae'n gas gen i weld dim ond un bwlch rhwng brawddegau. Ai fi
>> yw'r unig un sy'n meddwl bod dau fwlch yn ei gwneud yn haws i'r
>> llygad weld diwedd brawddeg?
>
> Efallai ar deipiadur ond pwy sy'n defnyddio un o rhain heddiw?
>
> Mae ychydig yn ddi-bwynt defnyddio dau fwlch mewn unrhyw destun
> electronig, gan fod bron popeth yn mynd i gael ei arddangos
> mewn ffeil Word, PDF neu ar wefan (hyd yn oed os yw wedyn yn
> cael ei argraffu).
>
> Os yw'r testun yn cael ei gyhoeddi yn y ffurf hynny, yna dylunydd
> y ddogfen/wefan ddylai benderfynu ar y fformat. Mae HTML, er
> enghraifft, yn anwybyddu unrhyw nifer olynol o fylchau ond mae'r
> dylunydd yn gallu penodi unrhyw arddulliau fel mewnoli, bylchau
> ac yn y blaen.
>
> Ychydig iawn o bobl sydd yn darllen ebost mewn ffont lled sefydlog
> hefyd (hynny yw - pob llythyren o'r un lled, fel teipiadur). Er mod
> i'n o'r rhai prin sy'n gwneud hynny, dwi ddim yn gweld gymaint o
> fantais i fwlch-dwbl chwaith (ffasiwn oedd e, dim mwy). Os oeddwn
> i'n ddylunydd, mae'n bosib fasen i'n poeni mwy amdano, wrth ddefnyddio
> ffont sefydlog.
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.11.2/422 - Release Date: 8/17/2006
>
>
|