Geraint Løvgreen:
>Na, yn ôl yr arbenigwyr a thermau cyfrifadurol Microsoft mae 'rhaglen' yr un
>peth â 'application'.
Mae Microsoft yn rhydd i ddiffinio termau ar gyfer eu defnydd eu hunain.
>Does dim gwahaniaeth mewn gwirionedd rhwng application a program.
Rwy'n anghytuno ac wedi holi ymysg cyd-weithwyr nid oes neb wedi cytuno
gyda'r gosodiad uchod hyd yn hyn.
Mae 'Application' yn cynnwys un neu fwy o raglenni. Mae'r term yn cael ei
gadw fel arfer ar gyfer rhaglenni lefel uchel sy'n gwneud jobyn o waith yn
uniongyrchol i ddefnyddwyr. Mae 'na lu o raglenni na fyddai neb yn eu galw'n
'applications' - rhaglenni sy'n rhan o'r system weithredu, rhaglenni lefel
isel sy'n gwenud gwaith y tu ol i'r llenni fel petai, rhaglenni sy'n
cyflawni tasgau i amrywiaeth o 'applications' heb fod yn rhan ohonynt.
Mae llawer o raglenni o'r fath yn cynnig rhyngwyneb cyhoeddus sefydlog i
raglenni eraill sy'n gweithredu ar lefel uwch ( ar lefel 'applications' ) -
sef yr API.
Neil Shadrach
>----- Original Message -----
>From: "Neil Shadrach" <[log in to unmask]>
>To: <[log in to unmask]>
>Sent: Tuesday, August 01, 2006 12:40 PM
>Subject: Re: application programmers interface
>
>
>Na, "cymhwysiad" yw "application" a "rhaglen" yw "program".
>Byddwn i'n awgrymu cadw'n agos at y Saesneg.
>
>Geraint Løvgreen <[log in to unmask]>:
>
>>Diolch, ond 'rhaglen' yw application, felly ydi "Rhyngwyneb Rhaglenwyr" neu
>>"Rhyngwyneb Rhaglennu" yn ddigon ar ei ben ei hun tybed?
>>
>>----- Original Message -----
>>From: "Neil Shadrach" <[log in to unmask]>
>>To: <[log in to unmask]>
>>Sent: Tuesday, August 01, 2006 11:49 AM
>>Subject: Re: application programmers interface
>>
>>
>>Geraint Løvgreen <[log in to unmask]>:
>>
>>>Application Programmers Interface (API), unrhywun?
>>
>>API = "Application Programming Interface" fel arfer [1]
>>
>>"Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau" ?
>>
>>[1]
>>http://www.acronymfinder.com/af-query.asp?Acronym=API&Find=find&string=exact
>========================================================================
|