Tybed a fyddai modd i'r Gymdeithas greu math o Oriel y Marwolion ar gyfer y math yma o beth?
Wrth sôn am Bonterwyd, a sylwodd eraill ar y defnydd o 'Five Peaks', ochr yn ochr â 'Pumlumon', ar o leiaf rai o arwyddion canolfan ymwelwyr Nantyrarian? Mae wedi ei gynnig fel esboniad, efallai, ond yn cael lle amlwg ac yn debyg o gael ei ddefnyddio'n helaeth fel enw newydd ar Bumlumon... Gobeithio na welir cyfieithiadau newydd tebyg mewn mannau eraill.
Rhisiart
----- Original Message -----
From: Berwyn Jones
To: [log in to unmask]
Sent: Tuesday, August 15, 2006 4:24 PM
Subject: Re: Erthygl ddiddorol
Yn Eisteddfod Abertawe fe welwyd unwaith eto'r faner 'Cydiwch a Troseddu Ceir' (Tackle Car Crime). Ar y llaw arall, roedd Rhaglen y Dydd (fel y mae'r Cymro a Golwg) hefyd yn frith o wallau. Ond haleliwia, mae arwydd wedi'i godi'n ddiweddar yn Nantyrarian ger Ponterwyd a'r Gymraeg arno'n gwbl gywir! Rhaid cofio tynnu llun ohono ...
Berwyn
----- Original Message -----
From: Muiris Mag Ualghairg
To: [log in to unmask]
Sent: Tuesday, August 15, 2006 2:09 PM
Subject: Erthygl ddiddorol
Mae stori ddiddorol yn y South Wales Echo heddiw
http://icwales.icnetwork.co.uk/0100news/0200wales/tm_objectid=17564553%26method=full%26siteid=50082%26headline=road%2dsign%2dleaves%2dwelsh%2dspeakers%2dbewildered-name_page.html
Muiris
----------------------------------------------------------------------------
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.10.10/418 - Release Date: 14/08/2006
|