Un cywiriad bach - rhag ofn i'r camgymeriad setio mewn concrit yn yr
archifau:
Deddf *C*wmnïau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2003 oedd
hwnna i fod (teipo wir -yr).
Delyth
Ysgrifennodd Delyth Prys:
> Cefais gais preifat am ateb call i deitl y ddeddf hon, ac felly dyma
> roi copi o'r ateb isod, rhag ofn ei fod o ddiddordeb i eraill,
> Delyth
>
>
> Mae cyfieithu teitlau deddfau i'r Gymraeg yn fater astrus. Yn fanwl
> gywir, y teitl a roddir yn y ddeddf yw'r unig deitl swyddogol, ac
> felly ni ddylid ei gyfieithu o gwbl.
> Fodd bynnag, mae cyfieithu teitlau deddfau San Steffan i'r Gymraeg yn
> hen draddodiad, ac mae peidio gwneud hynny mewn dogfennau cyhoeddus
> i'w weld yn chwithig iawn.
> Nid oes rhestr 'awdurdodol' o deitlau'r deddfau hyn ar gael yn Gymraeg
> (byddai'n rhaid i'r awdurdod ddod o San Steffan ei hun).
> Yn niffyg hynny gellir cael arweiniad weithiau o Geiriadur Newydd y
> Gyfraith (Robyn Lewis) sydd yn cynnwys cyfieithiadau Cymraeg o deitlau
> amryw o ddeddfau (ond nid y ddeddf dan sylw yn anffodus). Mae gwefan
> TermCymru hefyd yn werthfawr am ei bod yn cynnwys teitlau Rheoliadau
> perthnasol i Gymru. Gall y rhain fod yn seiliedig ar ddeddfwriaeth San
> Steffan, ond yn wahanol i ddeddfwriaeth San Steffan mae teitlau
> Cymraeg is-ddeddfwriaeth y Cynulliad yn deitlau swyddogol.
> Weithiau, mae'r tric o geisio dyfalu beth fyddai teitl Cymraeg y
> ddeddf (neu ymadroddion o fewn y teitl) a wedyn chwilio'r we i weld a
> oes enghraifftiau o'r cyfieithiad hwnnw yno, yn dod a chanlyniadau da.
> Yn yr achos hwn, methais a chael hyd i deitl y ddeddf yn ei chrynswth,
> ond roedd yno ddogfen "Gweithredu Preifat, Budd Cyhoeddus" yn
> http://www.strategy.gov.uk/downloads/files/welsh.pdf#search=%22Cymdeithasau%20Budd%22
>
> yn dweud "...Y dylid newid yr enwau i Gwmnïau Cydweithredol a
> Chymdeithasau Budd
> Cymunedol, ac na ddylid defnyddio’r term ambarél Cymdeithas
> Ddiwydiannol a
> Darbodus mwyach."
> Ar y sail pitw hwnnw (ac efallai sail cadarnach y ffaith fod y ddofen
> gyfan i weld wedi'i chyfieithu'n dda) byddwn i'n awgrymu Deddf Gwmnïau
> Cydweithredol a Chymdeithasau Budd
> Cymunedol 2003.
>
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Cymru, Bangor. Nid yw Prifysgol Cymru, Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Cymru, Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the University of Wales, Bangor.
The University of Wales, Bangor does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the University of Wales, Bangor Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|