Megis rhywun o dras werinol nad yw'n ieithydd, sydd wedi bod yn alltud o
Benrhyn Llŷn ers dros 30ain mlynedd ac wedi cael nemor ddim cyfle i
ymarfer Cymraeg llafar (nac ysgrifenedig ran hynny!) drwy gydol y cyfnod
hwnnw – mae’n deg i mi roi fy nghredentials ar y cychwyn, gan i ni fod yn
trafod barnau pobol megis Bruce a PW Thomas! – rwy’n cysidro (sori –
ystyried) y byddai defnyddio ‘neu’ yn anghywir yn y cyd-destun hwn.
Mewn achosion o’r fath mi fydda i’n ceisio dychmygu beth fyddai Mrs Jôs o
Lanaelhaearn yn ei ddweud wrth i mi sgwrsio hefo hi pan fydda
i 'adra'. ‘Hwn, ynteu hon, wnaeth?’ neu ‘Mae [un ai] hwn neu hon am fynd i
ofyn’ sydd yn gywir. Mrs Jos ydi'r awdurdod fyddwn i'n ddewis y tro yma!
Dafydd
|