MEINWE DDYNOL
Mae'r Awdurdod Meinwe Ddynol wedi gosod rheolau newydd ar unrhyw sefydliad,
yn cynnwys amgueddfeydd, sy'n cadw meinwe ddynol yn ei gasgliad. Er
enghraifft, amgueddfa cloddio sy'n cadw meinwe ysgyfaint o gloddwyr a fu
farw yn ystod yr ugeinfed ganrif.
O 31 Awst bydd angen trwydded cadw samplau meinwe o berson a fu farw ar ôl 1
Medi 1906.
Nid oes gofyn ôl-syllol i sicrhau caniatâd ar gyfer eitemau sydd yn y
casgliad yn barod. Mae rhaid parchu barn y marw, neu ei deulu a ffrindiau,
lle y gwybyddir y farn.
Tâl amgueddfa fach gyda llai na 20 arddangosyn £500 bob blwyddyn ar gyfer
trwydded tair blwyddyn.
Mae gwe fan ddwyieithog gyda chyngor a gwybodaeth fanwl. Gellir prynu
trwydded ar-lein: http://www.hta.gov.uk/
Argymhellwn y dylai amgueddfeydd bach gyda chasgliadau perthnasol cysylltu â
CyMAL am gyngor.
Gwasanaeth Gwybodaeth
Nid yw'r ffaith bod gwybodaeth trydydd parti wedi'i chynnwys yng
Ngwasanaeth Gwybodaeth Amgueddfeydd CyMAL yn golygu bod CyMAL yn ei
chymeradwyo. Nid yw CyMAL yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ansawdd
digwyddiadau, cynhyrchion neu wasanaethau trydydd parti y sonnir amdanynt yn
y Gwasanaeth hwn. Er ein bod wedi gwneud ein gorau i sicrhau bod yr
wybodaeth a ddarperir yn gywir, nid yw CyMAL na'r golygydd yn atebol am
unrhyw gamgymeriad neu hepgoriad.
Os ydych yn gwybod am unrhyw un a hoffai gael ei ychwanegu i'r rhestr, neu
hoffai gael copi caled o'r newyddion, neu os ydych heb fynediad i'r we ac am
gopi caled cysylltwch â Carol Whittaker. Byddwch yn dal i dderbyn copi caled
os ydych ar y rhestr ddosbarthu presennol.
Bydd fersiwn Cymraeg a Saesneg o'r bwletin yn cael eu dosbarthu ar wahan yn
dilyn sylwadau darllenwyr.
Carol Whittaker AMA
Cynghorydd Datblygu Amgueddfeydd
CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru
Llywodraeth Cynulliad Cymru
01970 610 238
[log in to unmask]
Dylai'r datganiadau neu'r sylwadau uchod gael eu trin fel rhai personol ac
nid o reidrwydd fel datganiadau neu sylwadau gan Gynulliad Cenedlaethol
Cymru, unrhyw ran ohono neu unrhyw gorff sy'n gysylltiedig ag ef.
The original of this email was scanned for viruses by the Government Secure Intranet (GSi) virus scanning service supplied exclusively by Energis in partnership with MessageLabs.
On leaving the GSi this email was certified virus-free.
Mae fersiwn wreiddiol y neges e-bost hon wedi'i sganio am feirysau gan wasanaeth sganio feirysau Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSi) a ddarperir yn arbennig gan Energis mewn partneriaeth â MessageLabs.
Wrth i'r neges e-bost hon adael GSi, ardystiwyd nad oedd firws ynddi.
|